Ystyrir San Silyn fel eglwys blwyf ganoloesol orau Cymru. Mae ganddi hanes cyfoethog a llu o drysorau a mwynderau ar gyfer yr ymwelydd, ac eto mae'n parhau'n eglwys brysur, boblogaidd lle mae'r gynulleidfa'n ymroddedig i addoli ac i gydnabod presenoldeb Duw yn ein bywydau bob dydd.

Mae'r Twr Mawr yn un o "Saith Ryfeddod Cymru" a'r tu mewn gwelir nenfwd wedi'i addurno â 16 angel lliwgar yn seinio offerynnau a chanu.
Mae celf a chrefydd yn ymdoddi i'w gilydd mewn darlun wal hynafol o Ddydd y Farn, a gollwyd am ganrifoedd. Mae un o ddarllenfeydd eryr efydd hynaf Prydain yn y fan hon, ynghyd â gwydr lliw cain, gan gynnwys ffenestr a briodolir i Burne-Jones, nifer o gorbleau a cherfluniau to canoloesol difyr, a llawer o nodweddion diddorol eraill.
Bydd ymwelwyr yn gweld tystiolaeth o'r cysylltiadau hanesyddol niferus â'r Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig, a chyswllt traws-Atlantig rhyfedd yw bod bedd Elhiu Yale, sefydlydd Prifysgol Iâl, y tu allan i'r drws gorllewinol.
Canolfan Groeso Wrecsam
Amgueddfa
Byd Dwr
Ffôn: 01978 355808
Ebost: admin@wrexhamparish.org.uk
11.00am - 3.00pm
24 awr talu rhwng 8.00am - 5.00pm
Ar Agor 8.30am - 5.30pm Llun - Sad
Eglwys Blwyf San Silyn
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Lawrlwytho'r taflen Eglwys Blwyf San Silyn - fformat PDF 147Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.