Eglwys Sant Marcella, Marchwiel

Mae adeilad eglwys wedi bod ar neu ger y safle presennol ers y 13eg ganrif. Adferwyd yr eglwys yn 1778 fel mae’r arysgrifiad Lladin ar un o ffenestri corff yr eglwys yn cadarnhau.

Mae gan yr eglwys gysylltiadau agos iawn â Phlas Erddig sydd gerllaw a’r teulu Yorke. Mae ffenestr gwydr lliw brydferth sy’n dangos achres y teulu Yorke. Ychydig islaw’r ffenestr hon tu allan i’r eglwys yw daeargell y teulu. Mae cofebau eraill tu mewn i’r eglwys yn cofio gwahanol aelodau o’r teulu Yorke, gan gynnwys Phillip Yorke III a fu farw yn 1978 ar ôl rhoi Erddig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhoddwyd yr organ i’r eglwys yn 1888 gan wraig weddw Benjamin Piercy o Blas Marchwiel.  Adferwyd yr organ yn hwyr yn y 1990au.

Gosodwyd y clychau yn 1930 i gymryd lle’r gloch unigol a gwnaed cloc yr eglwys gan Joyce & Co o’r Eglwys Wen yn 1892.

Cyfleusterau

  • Ychydig o leoedd parcio ar ymyl y ffordd.

  • Mae tafarn y Red Lion gyferbyn â’r eglwys.

Mannau I Ymweld  Nhw

  • Cors a Gwarchodfa Natur Marchwiel

  • Canolfan Grefftau’r Plasau

  • Plas Erddig (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

  • Siop Hen Bethau Bryn y Grog

Cyswllt

Ffôn: 01978 292015

Amseroedd Agor

Bob Dydd 10.00am - 4.00pm

Gwybodaeth am Fynediad

Eglwys Sant Marcella, Marchwiel

Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:

Taflen Eglwys Sant Marcella - fersiwn PDF 51Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig