Eglwys Y Santes Fair Magdalen

Agorwyd yr eglwys Fictoraidd fechan hon gyntaf ar 22ain Hydref 1873 am gyfanswm o £800 o gostau adeiladu, swm sy'n ymddangos yn go afreal heddiw, fel y £137 a wariwyd ar dwr y cloc i ddathlu Jiwbilî'r Frenhines Fictoria.

Llun o Eglwys Y Santes Fair Magdalen

Mae'r eglwys yn gorwedd ar y ffin rhwng Cymru a Swydd Gaer ac mae ganddi nifer o nodweddion trawiadol; yn eu plith mae twr y cloc, gwydr lliw hyfryd, bedyddfaen arysgrifedig a phen dwyreiniol crwn.

O'r 22 offeiriad sydd wedi rhannu bywydau pobl y pentref bychan hwn, gwyddai R S Thomas sut i wir symud ac ysbrydoli ei gynulleidfa, gan fynd yn ei flaen i ddod yn un o feirdd gorau Cymru. Tallarn Green oedd ei ail eglwys, yn ystod blynyddoedd arswydus y rhyfel o 1942 i 1945.

Llun o Eglwys Y Santes Fair Magdalen

Prin yw'r enghreifftiau gwell a geir o eglwys wledig Fictoraidd na Tallarn Green, sy'n parhau i weld addoli rheolaidd ar ôl 130 o flynyddoedd. Gellir darganfod gwir hanes yr eglwys blwyf hon ym mywydau ei phobl, yn y gorffennol yn ogystal â'r presennol.

Cyfleusterau

  • Parcio y tu allan i'r Eglwys
  • Tafarn The Queens Head, Sarn (1/4 milltir o'r Eglwys)

Lleoedd i Ymweld  Nhw

  • Teithiau cerdded lleol

  • Chwythwyr gwydr addurnol E&M, The Old Bakery, Sarn (1/4 milltir o'r Eglwys)

Cyswllt

Ffôn: 01978 292015

Amseroedd Agor

O wawr hyd fachlud

Gwybodaeth am Fynediad

Eglwys Y Santes Fair Magdalen

Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:

Lawrlwytho'r taflen Eglwys Y Santes Fair Magdalen - fformat PDF 152Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig