Mae Owrtyn yn fwyaf adnabyddus, efaillai, am yr hen goed yw godidog yn y fynwent, un o "Saith Ryfeddod Cymru". Credir bod yr hynaf yn 1500 - 2000 oed.

Mae twr yr eglwys yn dyddio o'r 14ef ganrif ac mae ganddi chwe chloch, a chloc gan Joyce o Eglwys Wen sy'n cynnwys eu mecanwaith gollyngiad patent, yn dybyg i "Big Ben".
Fwy na thebyg mai'r gwaith cerrig hynaf yw'r groes gylch Normanaidd, a adeiladwyd yng ngholofn orllewinol y corff, ac mae siafft hindreuliedig croes o'r 14eg ganrif yn sefyll o dan un ywen. Mae cist dderw â gwaith haearn trwm yn dyddio, fwy na thebyg, o'r 15fed ganrif.

Yn hynach fyth, ceir croes orymdeithiol Abysinaidd anarferol â chalendr pren mewn llawysgrif Indiaidd, y credir ei bod yn dyddio o'r 6ed ganrif. Trysorau eraill i chwilio amdanynt yw ffenestr ddwyreiniol gan Clayton & Bell a 3 ffenestr Kemp yn yr ale ddeheuol (1890), gyda llofnod "Wheatsheaf" Kemp ar fwcl clogyn y gwr doeth.
40 milltir o lwybrau troed wedi'u harwyddo'n dda (taflenni ar gael o lyfrgell Owrtyn)
Mae lluniaeth ar gael o amrywiol dafarndai'r ardal. Profwch y croeso lleol yn y bwyty pysgod neu Indiadd.
Mae Bwyty'r Boathouse yn Erbistock gerllaw mewn lleoliad delfrydol.
Maes chwarae i blant yn y pentref â pharcio.
Ffôn: 01978 292015
Bob dydd - 8.30pm - 5.00pm
Eglwys Santes Fair Y Forwyn
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Taflen Eglwys Santes Fair Y Forwyn - fersiwn PDF 147Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.