Adeiladwyd yr eglwys hon, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1, ar safle cyn-Normanaidd ac o bosibl ar sylfaen o’r 7fed ganrif, ac fe’i cysegrwyd i Sant Collen.

Erbyn diwedd y 13eg ganrif ad-feddianwyd yr eglwys gan Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ac fe’i hail-gysegrwyd i’r Fendigedig Forwyn Fair.
Mae manylion canoloesol allweddol yn goroesi yno gan gynnwys twr eglwys o’r 14eg ganrif tebyg i’r rhai a geir yn Sir Gaer a chofadeiliau bedroddol yn dyddio i ugain mlynedd gyntaf y 14eg ganrif.
Yn ystod y gwaith adfer yn 1870, dadorchuddiodd y pensaer Benjamin Ferrey, a oedd yn ddisgybl i’r pensaer a’r dylunydd enwog, Awgwstws Pugin, furlun godidog o’r 15fed ganrif yn darlunio’r Gweithiau Trugaredd. Caiff hwn ei gyfrif fel y murlun canoloesol gorau yn y wlad.

Yn y capel gogleddol ceir un o ddelwau coffaol gorau Cymru. Mae’r arysgrif Lladin yn gwahodd y darllenwyr i “Weddïo dros eneidiau John ap Elis Eyton, marchog a fu farw ar 28 Medi, 1526 ac Elizabeth Calveley ei wraig, a fu farw yn 1524”.

Brwydrodd ym mrwydr Bosworth yn 1485 ar ochr fuddugoliaethus Henry Richmond a chafodd ystadau mawr yn Rhiwabon fel gwobrau.
Rhoddwyd y bedyddfaen cain a ddyluniwyd gan Robert Adam i’r eglwys gan Syr Watkin Williams Wynn ar achlysur bedyddio ei fab ar 16eg Rhagfyr 1772.
Maes parcio - tir yr eglwys
Mynediad i gadeiriau olwyn
Dolen glyw i rai sy’n drwm eu clyw
Toiledau
Gwesty’r Wynnstay Arms (gyferbyn â’r eglwys)
Tafarndai lleol
Llwybr treftadaeth y pentref (mapiau ar gael)
Ardaloedd cadwraeth y pentref
Plas Erddig (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Castell Y Waun (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Traphont Ddwr Pontcysyllte (Thomas Telford)
Canolfan Grefftau’r Plasau
Ffôn: 01978 292015
Bob dydd Sadwrn o’r Pasg hyd ddiwedd Medi 1.00pm - 5.00pm.
Amseroedd eraill trwy apwyntiad yn unig.
Eglwys y Santes Fair, Rhiwabon
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Taflen Eglwys y Santes Fair, Rhiwabon - fersiwn PDF 53Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.