Eglwys y Santes Fair- Eglwys Gadeiriol Mair y Gofidiau, Wrecsam

Lluniwyd yr eglwys hon yn arddull yr Adfywiad Gothig gan E.W. Pugin ac fe’i hadeiladwyd gan Richard Thompson, glöwr a meistr haearn yng nghanol yr 1850au.  Daeth yn is-gadeirlan i Esgobaeth Mynyw pan sefydlwyd hi yn 1898.  Gwelir arfbeisiau yn perthyn i esgobion y cyfnod hwnnw yn y gadeirlan.  Yn 1987 daeth yn eglwys gadeiriol i esgobaeth newydd Wrecsam.

Mae beddrod Syr Rhisiart Gwyn (1535-1584) yn coffáu athro lleol a thad a ferthyrwyd yn y ‘Beast Market’ yn Wrecsam yn ystod cyfnod o anoddefgarwch crefyddol. Mae gan yr eglwys gadeiriol nifer o ffenestri gwydr lliw o safon uchel sy’n coffáu teuluoedd a oedd â chysylltiad diwrthdro â thwf tref Wrecsam yn ystod y 19eg ganrif, a’r Eglwys Babyddol yng Nghymru wrth iddi ddarganfod rhyddid newydd yn dilyn y Rhyddfreiniad yn 1829. Mae atgynhyrchiad o ddarlun y Pieta gan Michelangelo hefyd yn werth ei weld yn ogystal â phlac er cof am yr awyr-lefftenant David Lord, V.C.

Er bod y gadeirlan wedi’i lleoli wrth gyffordd brysur ac yn cynnal offerennau rheolaidd i wasanaethu Cymuned Babyddol Wrecsam, mae’n hafan i unrhyw un sy’n dewis camu iddi i chwilio am heddwch, llonyddwch a gobaith.

Cyfleusterau

  • Maes parcio i ymwelwyr

  • Mynediad i gadeiriau olwyn

  • Swfeniriau, arweinlyfrau ac eitemau defosiynol ar gael

  • Agos y gorsafoedd bysiaua threnau

  • Cyfleusterau toiledau cyhoeddus: Yr orsaf fysiau, Stryt y Brenin

Mannau I Ymweld  Nhw

  • Canolfan Groeso Wrecsam

  • Siopau a lluniaeth yng nghanol tref Wrecsam

  • Parc manwerthu a marchnadoedd dan do

  • Amgueddfa Wrecsam

  • Techniquest NEWI

  • Y Byd Dwr

  • Eglwys Biwyf San Silyn

Cyswllt

Ffôn: 01978 292015

Amseroedd Agor

Bob Dydd: 8.30am tan y cyfnos neu 5.30pm

Gwybodaeth am Fynediad

Eglwys y Santes Fair - Eglwys Gadeiriol Mair y Gofidiau

Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:

Taflen Eglwys y Santes Fair - Eglwys Gadeiriol Mair y Gofidiau - fersiwn PDF 57Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig