Defnyddir y waliau dringo hyn ar eich menter eich hun; ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamwain, colli eiddo neu ddifrod i eiddo personol.
Ni oruchwylir y wal ddringo. Fel rheol, ni all staff y Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau farnu ar eich gallu.
Cyn i chi ddringo mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen gofrestru i ddatgan eich bod yn gallu ac yn gymwys i ddefnyddio'r ganolfan. Rhaid goruchwylio dringwyr amhrofiadol a'r rheini na allant fodloni'r gofynion sylfaenol yn barhaus gan hyfforddwr cymeradwy, neu oedolyn cymwys bob amser tra yn y ganolfan. Mae'n rhaid i chi gofrestru â'r ganolfan ar bob ymweliad cyn dringo.
Mae gan y ganolfan hawl i wrthod mynediad.
Rhaid sicrhau na chedwir eiddo yn y mannau peryglus, ar y matiau diogelwch na ger y diangfeydd tân. Tynnwch bopeth o'ch pocedi cyn dringo er mwyn sicrhau na fyddant yn disgyn i'r llawr wrth ddringo.
Tra ar y ddaear dylech barhau i fod yn ymwybodol o berygl dringwyr eraill yn disgyn.
Os nad ydych yn dringo / angori sicrhewch eich bod yn cadw'n glir o'r mannau wedi'u teilio a'r matiau diogelwch.
Peidiwch â symud neu geisio newid unrhyw ddaliadau.
Rhowch wybod am unrhyw ddaliadau neu ddiffyg / ddifrod i offer ar unwaith
Rhaid rhoi gwybod yn llawn am bob damwain/broblem i aelod o staff ar y dderbynfa ar unwaith.
Mae'r ganolfan yn cadw'r hawl i atal unigolion rhag dringo os yw eu hymddygiad neu eu harfer yn beryglus i'w hunain neu eraill.
Oherwydd natur y gweithgaredd argymhellwn yn gryf eich bod yn ystyried prynu eich yswiriant personol rhag ofn damwain.
Caniateir dringo ar eich pen eich hun yn yr ardal dringo creigiau'n unig (gyda mat diogelwch). Caniateir croesi wysg eich ochr islaw 8' ar fannau eraill. Ni chaniateir dringo i'r balconi. Peidiwch â dringo i ben yr ardal dringo creigiau.
Wrth ddringo'r creigiau eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod digon o fatiau o dan y broblem y byddwch yn ei ymgeisio.
Wrth ddringo creigiau, byddwch yn ymwybodol o'r perygl i eraill ddisgyn. Peidiwch â dringo neu eistedd islaw dringwyr eraill.
Mae'n rhaid i chi ddefnyddio harnais-eistedd ar gyfer dringo. Rhaid cysylltu'r rhaff at hyn gyda chwlwm ffigwr wyth neu gwlwm bowlin fel a nodir gan wneuthurwr yr harnais.
Rhaid i chi beidio â datglymu'r rhaff ar unrhyw bryd wrth ddringo'r waliau.
Wrth osod hoelion angori at y creigiau mae'n rhaid i chi ddefnyddio dull angori priodol (ni ddylid clymu wrth y wasg)
Dylai'r rheini sy'n gosod hoelen angori sefyll yn agos at y wal a pharhau'n astud wrth angori.
Ni ddylid symud y rhaffau ar y brig i'w defnyddio ar lwybrau eraill.
Rhowch y rhaff ar y prif lwybrau pwysig pan fo'r daith ddringo wedi ei chwblhau ac wedi ei chlipio i'r pwynt islaw yn unig. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod y rhaff wedi ei chlipio drwy ddigon o slingiau byr i rwystro'r ail rhag siglo tuag allan petai rhywun yn disgyn.
Caniateir arwain ar lwybrau arweiniol penodol.
Wrth arwain rhaid i chi ddarparu eich rhaff ddeinamig briodol eich hun.
Wrth arwain rhaid i chi ddefnyddio eich sling byr eich hun a rhaid clipio'r holl folltau mewn dilyniant.