Wal Ddringo a AGA

Wal Ddringo

Mae gan Blas Madoc wal ddringo fendigedig ar gyfer dechreuwyr a dringwyr profiadol.

Mae'r wal ddringo ar agor i ddringwyr profiadol/medrus a dringwyr cymwys ar unrhyw adeg. Gall dechreuwyr a phlant fynychu cyrsiau neu sesiynau dan hyfforddiant.

Amodau Defnyddio

Amseroedd agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am hyd 10.00pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul 9.30am hyd 4.30pm

Pris

Oedolion £4.60 (dros 18)
Plant £2.30 (dan 18)

Mae cyfnod o 2 awr ar y lleiaf ar gael ar gyfer pob sesiwn.

Gallai cwsmeriaid neilltuo'r wal hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw.

Rhaid cwblhau ffurflenni cofrestru cyn defnyddio'r wal.

Gellwch neilltuo'r wal ar gyfer grwpiau neu mewn bloc o sesiynau. Gofynnir am brawf o'ch cymwysterau a'r gwiriadau priodol cyn y gellwch neilltuo sesiwn. Cynigir gostyngiadau os neilltuir bloc o sesiynau am chwe wythnos neu fwy.

Ffurflen Cofrestru

Ffurflen Cofrestru - Fersiwn Word 35Kb

Ffurflen Cofrestru - Fersiwn PDF 68Kb

Ffurflen Cofrestru - Fersiwn RTF 45Kb

Ffurflen Arwyddo Grwp

Ffurflen Arwyddo Grwp - Fersiwn Word 32Kb

Ffurflen Arwyddo Grwp - Fersiwn PDF 79Kb

Ffurflen Arwyddo Grwp - Fersiwn RTF 43Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word


Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc ar 01978 821600.

Ardal Gemau Amlddefnydd

Mae gan y Ganolfan Hamdden Ardal Gemau Amlddefnydd sydd wedi'i llifoleuo, ac a fyddai'n ddelfrydol ar gyfer amryw o chwaraeon megis pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd a thennis. Mae ar gael i'w hurio o ddydd Llun i ddydd Gwener o 5.30 - 9.30pm. Os hoffech neilltuo sesiwn neu os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch, ffoniwch Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc ar 01978 821600.

yn ôl i'r brig