
Pan ddewch chi i’r Ystafelloedd Ffitrwyddfa a Iechyd am y tro cyntaf, fe gewch chi holiadur meddygol byr i’w lenwi; byddwn yn rhoi prawf ar eich Pwysedd Gwaed, yn gofyn ichi beth a wnaethoch yn flaenorol, o ran ymarfer, ac wedi hynny byddwn yn pennu nodau ar gyfer eich iechyd a’ch ffitrwydd. Ar sail hyn i gyd byddwn yn llunio cynllun ymarfer er mwyn ichi allu cychwyn arni. Wedyn byddwn yn dangos y ffitrwyddfa a’r offer ichi ac yn egluro a dangos ichi sut i’w defnyddio.
Mae gan y ffitrwyddfa amrywiaeth lawn o offer cardiofasgwlaidd, cyfarpar gwrthsafol a phwysau rhydd gan Technigym. Mae gan yr holl offer cardiofasgwlaidd offer llywio sgrin gyffwrdd, teledu, radio, gemau rhyngweithiol a chyfleuster cysylltu iPOD ac mae popeth yn syml a hawdd i’w ddefnyddio. Yr unig beth y bydd arnoch ei angen yw pâr o glustffonau i chi’ch hun a gallwch chi wrando ar eich hoff raglen neu eich dewis gerddoriaeth pan ydych yn ymarfer! Os hoffech golli pwysau, bod yn fwy heini ac iach neu os ydych yn dymuno cystadlu hyd y safon uchaf posibl yn eich dewis chwaraeon, yna gall ein hyfforddwyr a’n hyfforddwragedd gynnig rhaglenni sy’n addas i’ch nodau a’ch uchelgeisiau chi ac i’ch ffordd o fyw hefyd.
Ar ben hynny mae ein hyfforddwyr yn cyfrannu at un neu ddau o gynlluniau iechyd lleol pwysig fel Cynllun Atgyfeiriadau Meddygon Teulu Cenedlaethol ac Adferiad y Galon Cam IV:-
Mae gennym gyfyngiadau oedran yn ein Ffitrwyddfa a gall pawb, o 16 oed ymlaen, ddefnyddio’r Ystafelloedd Ffitrwyddfa a Iechyd cyn amled ag yr hoffent. (Nid oes unrhyw gyfyngiad ar ba mor hen yr ydych!) Mae gennym gampfa iau i blant 12-15 oed ar ddydd Sul o 11.00 - 1.00 a dylai pawb sydd am fanteisio ar y cyfle hwn fynd i’r dderbynfa er mwyn cadw lle ar gwrs rhaglen groeso. Ar gyfer yr oedran hwn gofynnwn i riant fod yn bresennol ac iddo/iddi arwyddo’r archwiliad iechyd a’r ffurflen ganiatâd. Am ragor o wybodaeth cofiwch ffonio’r dderbynfa.
Beth yw offer Technogym (cyswllt allanol)
Dewch i ymlacio a dadflino yn ein hystafelloedd sawna a stêm cymysg. Mae tymheredd poeth y sawna wedi’i osod ar 90° a dyma’r lle perffaith i ymlacio ar ôl ymarfer corff. Mae’r ystafell stêm yn cynnwys arogl ewcalyptws er mwyn agor eich llwybrau anadlu. Mae’r man hwn yn cynnwys ardal ymlacio fawr lle gallwch eistedd a chymdeithasu mewn amgylchedd tawel.
Mae Plas Madoc yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd – o heini-baffio i erobeg a ddarperir ar gyfer pob lefel. Bydd ein hyfforddwyr yn eich arwain trwy sesiwn ymarfer corff gyfan ac yn eich cymell i gyrraedd eich nodau. Caiff pob dosbarth ei ddiweddaru’n barhaus gyda’r offer a’r symudiadau diweddaraf i’ch cadw ar flaen eich camp.
Os byddwch am gael sesiwn ymarfer llai dwys, rhowch gynnig ar un o’n dosbarthiadau erobeg neu ddŵr niferus. I’r rheiny ohonoch sydd wedi arfer â dosbarthiadau dwys, mae ein dosbarthiadau heini-baffio a hyfforddiant cylchol yn wych!!
Amserlen Dosbarthiadau Ffitrwydd >>