Ffitrwydd
a hwyl i'r teulu cyfan!
Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc saith milltir o Wrecsam
ar yr A539 (oddi ar yr A483).
Canolfan hamdden a gweithgareddau ranbarthol sy’n denu defnyddwyr ac ymwelwyr o
bob rhan o’r gogledd ddwyrain, Swydd Amwythig a gogledd Cymru.
Dweud Eich Dweud!
Pwll Hamdden
Mae Plas Madoc yn enwog am ei Bwll Hamdden ‘Y Lagwn Trofannol’.
Dyma’r lle delfrydol i’r holl deulu gael HWYL.
Cerddwch ar hyd frig y don, dringwch y crocodeil, llithrwch i lawr yr
eliffant a’r neidr neu chwaraewch yn y tonnau.

Mae’r ‘Lagwn’ yn berffaith i deuluoedd â phlant
bach, oherwydd gallant chwarae yn y dwr bas ar y ‘traeth’.
Mae’n lle gwych i ddysgu nofio a darperir dosbarthiadau ar gyfer
pob lefel gan ein staff wedi’u hyfforddi.
Ac i’r oedolion – pam na wnewch chi roi tro ar erobeg dwr
a woglo am sesiwn ffitrwydd erobeg llai egnïol?
^ yn ôl i'r brig
Chwaraeon
- 2 gwrt sboncen
- pêl-droed dan do
- man gemau aml-ddefnydd awyr agored
- wal ddringo dan do
- trampolîn
2 chwrt sboncen, 4 cwrt badminton, pêl-droed dan do – mae’r
cyfan ar gael yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc.
Mae’r Neuadd Chwaraeon yn un amlbwrpas ac yn lleoliad gwych ar
gyfer popeth o grefft ymladd a hyfforddi cylchol i ffitrwydd merched a
thennis bwrdd. Mae popeth yn digwydd ym Mhlas Madoc!
^ yn ôl i'r brig
Iechyd a Ffitrwydd
Mae’r Adran Iechyd a Ffitrwydd yma i’ch helpu gyda’ch
holl anghenion ffitrwydd. Mae’r adran yn cynnwys 4 rhan:
^ yn ôl i'r brig
Caffeteria
Mae gan Gaffeteria Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc fwydlen sy’n cynnig
dewisiadau bwyta’n iach (ond os byddai’n well gennych, fe
gewch fyrgar a sglodion!). Bydd staff y caffeteria’n falch o’ch
gweld unrhyw amser, boed am ddiod oer yn dilyn ymarfer egnïol neu
am bryd llawn.
^ yn ôl i'r brig
Ymdrin ag Anableddau
Mae Plas Madoc yn ceisio darparu ar gyfer pobl ag anableddau, gan gynnwys
parcio penodol i bobl anabl a mynediad i gadeiriau olwyn. Mae gan y pwll
fan newid wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer pobl ag anableddau,
sy’n cynnwys toiled, cawod a chyfleusterau newid. Mae’r man
hwn yn arwain yn uniongyrchol at ochr y pwll a darperir ramp a chanllaw.
Gwybodaeth Bellach:
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc
Ffordd Llangollen
Acrefair
Wrecsam
LL14 3HL
Ffôn: 01978 821600
Facs: 01978 824633
Ebost: plasmadoc.leisurecentre@wrexham.gov.uk
Gweler Map Lleoliad
|