Yr hawl i chwarae yw’r peth cyntaf y mae plentyn yn hawlio gan ei gymuned. Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn cefnogi cymunedau er mwyn sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei gwerthfawrogi a’i chynnal ar gyfer holl blant a phobl ifanc Wrecsam trwy:
Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn Adran Atal a Chynhwysiad y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Mae’r tîm yn hwyluso’r Rhwydwaith Chwarae a’r Fforwm Chwarae Strategol ac mae ganddynt gynrychiolaeth ar NEW Play (Fforwm Chwarae Gogledd Ddwyrain Cymru).
Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn cynnwys Gweithwyr Chwarae profiadol, pob un yn credu’n angerddol mewn hyrwyddo hawl plant i chwarae. Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon ynghylch cyfleoedd i blant chwarae yn Wrecsam neu am gael gwybod mwy am y modd y gallech chi gynorthwyo gyda chwarae plant yn eich cymuned, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.
Dechreuodd Helen weithio efo Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Mai 1996 yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig yn Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. O fis Ebrill 2002 ymlaen, Helen oedd Swyddog Hyfforddi a Datblygu Pwyllgor Amddiffyn Plant yr Ardal, yn darparu hyfforddiant ar amddiffyn plant i sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o amgylch Wrecsam. Penodwyd Helen yn Swyddog Datblygu ar gyfer Rhwydweithiau Cyfunol Plant ym mis Rhagfyr 2005 gyda’r gwaith o gydlynu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, a oedd yn cynnwys Parc Caia, Brynteg a Phlas Madoc. Roedd y gwasanaethau hyn yn cynnwys Addysg Gynnar, Gofal Plant a Chwarae, cyfnod pryd y daeth Helen yn gyfrifol am Ddarpariaeth Chwarae ledled Wrecsam. Swydd Helen ar hyn o bryd yw Cydlynydd y Tîm o Amgylch y Plentyn/Cleient, Rhwydweithiau Cyfunol Plant a Rheolwr Chwarae gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dechreuodd Mike ei yrfa yn Weithiwr Chwarae mewn clwb ar ôl ysgol yn Leamington Spa yn ôl yn 1997. Ers hynny mae Mike wedi gweithio mewn amrywiaeth fawr o leoliadau chwarae yn cynnwys cynlluniau chwarae gwyliau, lleoliadau chwarae mynediad agored a phrosiectau i gynorthwyo chwarae plant ag anableddau. Bu Mike yn Weithiwr Chwarae yn Sheffield, Doncaster a Chilgwri cyn ei benodi’n Gydlynydd Datblygu Chwarae Wrecsam yn 2007.
Dechreuodd Mel ei gyrfa yn weithiwr chwarae yn Y Fenter yn 2001 ac oddi yno aeth ymlaen i weithio ym Maes Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro, lle mae hi’n dal i gynorthwyo o bryd i’w gilydd os byddant yn brin o weithwyr. Mae gan Mel hefyd gymwysterau gweithiwr ieuenctid ac mae wedi gweithio mewn nifer o glybiau ieuenctid o amgylch Wrecsam. Dechreuodd Mel weithio gyda’r Tîm Datblygu Chwarae ym mis Ionawr 2008 ac mae hi’n hyfforddwr ac asesydd cymwysedig ar gyfer y cymwysterau P3 (Gweithredu Egwyddorion Gwaith Chwarae / Playwork Principles into Practice).
Mae gan Rich radd BA (Anrh) mewn Datblygu Chwaraeon ac mae ganddo brofiad amrywiol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn nifer o wahanol amgylcheddau. Mae hyn wedi cynnwys gweithio am ddau haf fel Gweithiwr Chwarae Uwch i Gyngor Sir y Fflint. Teithiodd Rich hefyd i Uganda ym mis Medi 2007 i gynnal sesiynau chwarae a chwaraeon ar gyfer plant a fu’n filwyr. Dechreuodd Rich weithio gyda’r Tîm Datblygu Chwarae ym mis Gorffennaf 2008 ac mae’n aseswr cymwysedig ar gyfer y cymwysterau P3 (Egwyddorion Gwaith Chwarae ar Waith).
Graddiodd Theresa mewn celf a gweithiodd fel Swyddog Addysg i Oedolion cyn dechrau Playwork yn The Venture yn 1989. Mae wedi cymryd ambell doriad dros y blynyddoedd a bryd hynny bu’n dysgu celf yng Ngholeg Iâl a Choleg Garddwriaethol Llaneurgain a bu’n cynnal ysgolion celf i blant yn ystod yr haf a chlybiau celf i blant i amrywiol gynghorau sir. Dychwelodd Theresa i weithio ac aros â Playwork yn 2003. Yn 2008 dechreuodd astudio am radd mewn Chwarae a Gwaith Chwarae ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae wedi gweithio ym maes chwarae antur Gwenfro Valley yn ddiweddar a dechreuodd weithio i’r Tîm Datblygu Chwarae ym mis Hydref 2010.
Dechreuodd Jonny weithio fel gweithiwr chwarae yn 2001 i Gyngor Sir y Fflint. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i oruchwylio cynlluniau chwarae Sir y Fflint ac arwain ar eu prosiectau cynhwysiad. Mae gan Jonny amrywiaeth o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc; mae’n athro cymwysedig a gweithiodd am flynyddoedd mewn Gwersyll Haf yn America. Jonny sy’n gyfrifol am reoli prosiectau gwaith chwarae mynediad agored a phrosiectau cynhwysiad y tîm.
Dechreuodd Katy weithio gyda Chyngor Wrecsam ym mis Medi 2004 yn brentis modern yn Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Mehefin 2005 cafodd Katy swydd barhaol yn yr Adran Hyfforddi ac yna aeth ymlaen i weithio yn yr Adran Adnoddau Dynol cyn cael swydd gyda’r Tîm Datblygu Chwarae ym mis Mawrth 2008. Ar hyn o bryd mae Katy yn rhoi cymorth cyfathrebu a gweinyddol i’r Tîm Datblygu Chwarae.
Tîm Datblygu Chwarae CBSW
Byddin yr Iachawdwriaeth
Ffordd y Gerddi
Rhosddu
Wrecsam
LL11 2NU
Ffôn: 01978 340740
E-bost: play@wrexham.gov.uk