Rhwydwaith Chwarae Wrecsam

"Gweithio gyda’n gilydd i gynnal hawl plant i chwarae"

Diben y Rhwydwaith Chwarae

  • Cefnogi hawl plant i chwarae a rhoi mwy o amlygrwydd i chwarae yn Wrecsam.
  • Darganfod rhwystrau a chyfyngiadau ar chwarae lle maent yn digwydd a thrafod dulliau creadigol o’u symud.
  • Rhannu profiadau, cyngor ac adnoddau i gefnogi datblygiad cyfleoedd chwarae newydd.

Pwy sy’n gallu ymuno?

Unrhyw sy’n dymuno ymwneud â chefnogi’r gwaith o greu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae hyn yn cynnwys rhieni a gofalyddion, aelodau o’r gymuned leol, gweithwyr chwarae, gweithwyr blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill y mae eu gwaith yn effeithio ar chwarae.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r Rhwydwaith Chwarae yn cael ei hwyluso gan Dîm Datblygu Chwarae CBSW a bydd yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Bydd thema wahanol i bob un o ddigwyddiadau’r rhwydwaith ond byddant bob tro yn gyfle gwych i gefnogi ei gilydd, rhannu gwybodaeth, trafod barn ac awgrymu syniadau ynghylch datblygu chwarae yn Wrecsam.

Cynrychiolir y Rhwydwaith Chwarae ar lefel cynllunio strategol gan y Fforwm Chwarae Strategol sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r sectorau statudol a gwirfoddol. Bydd y Fforwm Chwarae Strategol, gyda chymorth aelodau’r Rhwydwaith Chwarae, yn arwain gyda rhoi Strategaeth Chwarae newydd Wrecsam ar waith.

Mae aelodau’r Rhwydwaith Chwarae yn helpu hefyd i drefnu a hwyluso dathlu’r Diwrnod Chwarae cenedlaethol yn Wrecsam.

Sut ydw i’n ymuno?

Gallwch ymuno trwy lawrlwytho’r ffurflen gais isod a’i hanfon at:

Tîm Datblygu Chwarae CBSW
Byddin yr Iachawdwriaeth
Ffordd y Gerddi
Rhosddu
Wrecsam
LL11 2NU
Neu anfonwch neges e-bostio at play@wrexham.gov.uk

Ffurflen Rhwydwaith Chwarae Atodedig

Ffurflen Rhwydwaith Chwarae Atodedig - Fformat PDF 25Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Beth sy’n digwydd wedyn?

Wedyn, mi gewch chi eich rhoi ar restr bostio Tîm Datblygu Chwarae CBSW a byddwch yn derbyn negesau e-bost rheolaidd efo’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cenedlaethol a lleol yn y sector chwarae a gwahoddiadau i bob digwyddiad gan y Rhwydwaith Chwarae yn y dyfodol. Byddwch yn gallu ei ddefnyddio hefyd i ofyn am gymorth gan aelodau eraill y Rhwydwaith Chwarae.

yn ôl i'r brig