Strategaeth Chwarae Wrecsam

Diben Strategaeth Chwarae bum mlynedd Wrecsam yw cynyddu nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dod yn rheolaidd at amrywiaeth eang o gyfleoedd i chwarae yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r strategaeth yn bwriadu gwneud hyn trwy fynd i’r afael â rhai o’r pethau sylfaenol sy’n amddifadu rhag chwarae yn ogystal â hyrwyddo datblygiad rhagor o ddarpariaeth chwarae cydadferol.

Mae’r Strategaeth Chwarae yn dechrau gyda’n Polisi Chwarae, sy’n rhoi ein diffiniad ni o chwarae ac yn egluro ein dealltwriaeth ni o’i bwysigrwydd hanfodol ym mywydau plant a phobl ifanc. Yna mae chwe phennod sy’n disgrifio’r modd yr ydym yn bwriadu gweithredu’r polisi hwn. Mae pennawd pob pennod yn gysylltiedig â maes blaenoriaeth o ran datblygu chwarae. Yna, nodir o dan bob un o’r penawdau hyn nifer o amcanion yr ydym yn bwriadu gweithio i’w cyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Nod dogfen y strategaeth yw rhoi gwybodaeth gefndirol i’r darllenydd am chwarae, trosolwg o’r sector chwarae yn Wrecsam a sail resymegol i ategu’r amcanion a nodir. Yna, gyda’r ddogfen hon, mae cynllun gweithredu strategol sy’n disgrifio’r camau gweithredu penodol y byddwn yn eu dilyn i gyflawni’r amcanion hyn.

Yn ogystal â’r ddogfen hon, mae Strategaeth Offer Chwarae Awyr Agored Sefydlog Wrecsam yn rhoi sylw i waith sy’n ymwneud yn benodol â datblygu a rheoli mannau chwarae gydag offer sefydlog, mannau gemau amlddefnydd (MGA), traciau BMX a pharciau sglefrio. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddosbarthiad y mathau hyn o fannau chwarae a’r modd y bydd gwaith ar y math hwn o ddarpariaeth yn cael ei flaenoriaethu. Mae copïau o’r strategaeth ychwanegol hon a rhagor o wybodaeth ar gael gan isadran Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Adran Amgylchedd CBSW.

Strategaeth Chwarae Wrecsam 2009 - 2013

Strategaeth Chwarae Wrecsam 2009 - 2013 - Fformat PDF 4.7Mb

Cynllun Gweithredu Strategaeth Chwarae Wrecsam 2010 - 2011

Cynllun Gweithredu Strategaeth Chwarae Wrecsam 2010 - 2011 - Fformat PDF 254Kb

Strategaeth Chwarae Adroddiad Cynnydd Y Flwydd Yn Gyntaf

Strategaeth Chwarae Adroddiad Cynnydd Y Flwydd Yn Gyntaf - Fformat PDF 915Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Polisi Chwarae Wrecsam

Hawl i Chwarae

Seiliwyd y Polisi Chwarae hwn ar hawl sylfaenol plant a phobl ifanc i chwarae, fel y derbyniwyd gan y canlynol:

  1. Polisi Chwarae Cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002)
  2. Nod Craidd 4 o Saith Nod Craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, sy’n datgan bod: “gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliant ar gael i holl blant a phobl ifanc”Llywodraeth Cynulliad Cymru, Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau, Ionawr 2004.
  3. Erthygl 31 o Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n datgan bod: “Partïon yn derbyn hawl y plentyn i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn chwarae a gweithgareddau adloniadol priodol i oed y plentyn ac i gyfranogi o wirfodd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau”.Y Cenhedloedd Unedig, Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, Tachwedd 1989

Mae Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Wrecsam yn derbyn bod effaith cymdeithas fodern ar fywydau plant wedi cyfyngu’n sylweddol ar y cyfle iddynt chwarae o wirfodd ac wedi arwain at ddiffyg cyfleoedd i chwarae yn yr amgylchedd cyffredinol.

Agenda dan arweiniad plant yw chwarae. Dyma’r hyn maent am ei wneud a’r hyn a ddewisant ei wneud pan gânt y rhyddid, annibyniaeth, amser a lle i benderfynu ar eu hymddygiad eu hunain. Os ydym yn gwerthfawrogi ein plant ac yn eu gweld fel dinasyddion cyfartal yna rhaid i ni gynnal eu hawl i chwarae.

O ganlyniad, mae’r polisi chwarae hwn a’r strategaeth chwarae gysylltiedig yn mabwysiadu ac yn cadarnhau’r egwyddorion a blaenoriaethau a amlinellwyd ym Mholisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) a Chynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae (2006).

Beth yw Chwarae?

Mae Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Wrecsam yn credu:

“Bod chwarae’n cwmpasu ymddygiad plant sy’n cael ei ddewis o wirfodd, yn hunangyfeiriedig ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Mae’n cael ei wneud heb unrhyw nod na gwobr allanol, ac mae’n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i’r gymdeithas lle maent yn byw.” (Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002)Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Chwarae, Hydref 2002

Mae a ddewiswyd o wirfodd yn golygu bod plant eu hunain yn dewis pryd, sut a beth i chwarae. Nid yw chwarae’n rhan o raglen benodedig ac nid yw’n golygu cwblhau unrhyw gamau.

Mae hunangyfeiriedig yn golygu mai’r plant eu hunain sy’n rheoli cynnwys eu chwarae ac yn penderfynu’r rheolau a’r rhannau a gymrant wrth chwarae.

Mae yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun yn golygu nad yw chwarae’n cael ei wneud er mwyn cael unrhyw wobr, tystysgrif na statws. Chwarae yw’r broses y mae plant yn ymwneud â hi yn hytrach na’r cynnyrch terfynol. Diffiniad a addaswyd o: Chwarae Cymru, www.playwales.org.uk , Ionawr 2009

Mae chwarae uwchlaw oed, gallu, ethnigrwydd, statws cymdeithasol, crefydd a rhyw. Gall fod ar lawer o wahanol ffurfiau ac mae ganddo lawer o wahanol nodweddion. Y cwmpas a gallu hwn sy’n gwneud chwarae’n gynhwysol o holl blant a phobl ifanc.

Yr Angen i Chwarae

"Chwarae yw’r broses ddysgu elfennaidd trwy’r hon y datblygodd yr hil ddynol. Bydd plant yn dangos rheidrwydd ymddygiadol a dymuniad greddfol i chwarae. Cyfrannodd yn sylweddol at oroesiad esblygol a datblygiadol ein rhywogaeth. Bydd plant yn defnyddio chwarae yn yr amgylchedd naturiol i ddysgu am y byd lle maent yn byw gydag eraill. Dyma union broses ddysgu a thwf ac, fel y cyfryw, mae popeth gaiff ei ddysgu trwy chwarae o fudd i’r plentyn." (Llywodraeth Cynulliad Cymru Polisi Chwarae 2002) Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Chwarae, Hydref 2002

Mae chwarae’n hanfodol i ffyniant corfforol ac emosiynol plant ac yn ganolog i fywyd plant iach gan effeithio ar ddatblygiad eu cyrff a’u hymennydd. O gael cyfle i chwarae mae plant yn fwy tebygol o fod yn gorfforol egnïol trwy redeg, neidio, dringo, cloddio, dawnsio, codi, gwthio neu dynnu. Trwy chwarae bydd plant yn cael profiad o ystod eang o deimladau gan gynnwys rhwystredigaeth, penderfyniad, siom, llwyddiant, hyder a helynt a, thrwy ymarfer, gallant ddysgu sut i’w rheoli. Trwy chwarae gyda’u cyfoedion bydd plant hefyd yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol ac yn meithrin cyfeillgarwch cryf, sy’n arwain at deimladau cadarnhaol o hapusrwydd a pherthyn.

Bydd plant o fwriad yn chwilio am ansicrwydd corfforol ac emosiynol yn eu chwarae. O’r dechrau mae plant yn fusneslyd a chwilfrydig gyda phenderfyniad greddfol a grymus i archwilio’r anhysbys ac arbrofi gyda’u hamgylchoedd. Trwy fentro a chael profiadau chwarae anturus gall plant herio eu hunain, rhoi prawf ar gyfyngiadau’r amgylchedd o’u cwmpas, datblygu sgiliau datrys problemau a chael hyd i ddulliau creadigol o drin sefyllfaoedd newydd. Yn y pen draw mae chwarae’n dylanwadau ar allu plentyn i fod yn addasadwy a gwydn, i ymdopi â digwyddiadau dirdynnol ac, felly, yn galluogi iddynt gynnal eu ffyniant eu hunain.

Chwarae yw hanfod plentyndod a bydd unrhyw beth heblaw mynediad rhydd at y dewis mwyaf o gyfleoedd i chwarae o wirfodd, yn hunangyfeiriedig ac er ei fwyn ei hun, yn cael effaith aflesol ar ddatblygiad y plentyn.

Darparu ar gyfer Chwarae

Mae’r polisi hwn yn datgan bod chwarae’n hollbwysig nid yn unig i blant ond i’r gymdeithas lle maent yn byw. Felly, rydym yn credu bod cyfrifoldeb ar bawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal hawl plant i chwarae pa un ai ydynt yn ymwneud â darparu ar gyfer chwarae neu drwy sicrhau osgoi cyfyngu ar chwarae pryd bynnag y bo modd. Oherwydd effeithiau cymdeithas fodern, rydym yn ymroddi i ddatblygu mwy o fannau chwarae ad-daliadol o safon; fodd bynnag, rydym hefyd yn derbyn na ddylid cyfyngu’r rhyddid i chwarae i’r cylchoedd hyn ond y dylid yn hytrach ei hyrwyddo drwy holl gymuned y plentyn.

Fforwm Chwarae Strategol Wrecsam

Mae’r Fforwm Chwarae Strategol yn gyfrifol am gynnal Polisi Chwarae Wrecsam a bwrw ymlaen â Strategaeth Chwarae Wrecsam ar ran y Bartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. Wrth wneud hyn, nod y fforwm yw rhoi cyfeiriad strategol i ddatblygiad y sector chwarae trwy hyrwyddo rhagor o weithio ar y cyd gan ddarparwyr chwarae a thrwy sicrhau bod ystyriaeth i’r effeithiau ar chwarae ym mhob mater sy’n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc.

Hefyd, mae Fforwm Chwarae Strategol Wrecsam yn cynrychioli’r Rhwydwaith Chwarae ar lefel cynllunio strategol ac mae’n gweithio mewn partneriaeth i roi sylw i faterion y mae aelodau’r Rhwydwaith Chwarae yn eu hamlygu.

Mae’r Fforwm Chwarae Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr ymysg partneriaid gwirfoddol a statudol y mae eu gwaith yn effeithio ar chwarae plant a phobl ifanc.

Os ydych yn dymuno derbyn cofnodion y Fforwm Chwarae Strategol ymunwch â’r Rhwydwaith Chwarae a byddwch yn eu derbyn drwy’r e-bost.

Cylch Gorchwyl

Gweledigaeth

Mae chwarae yn hawl sylfaenol i blant a phobl ifanc, fel y cydnabyddir gan:

  1. Polisi Chwarae Wrecsam (2009)
  2. Polisi Chwarae Cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002).
  3. Nod Craidd 4 o Saith Nod Craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
  4. Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Fforwm Chwarae Strategol yn gyfrifol am gynnal Polisi Chwarae Wrecsam a gyrru Strategaeth Chwarae Wrecsam yn ei blaen ar ran y Bartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.

Amcanion y Fforwm Chwarae Strategol:

  • Sicrhau bod cynllun gweithredu’r Strategaeth Chwarae yn gweithredu’n effeithiol i gyflawni amcanion y strategaeth.
  • Arolygu, adolygu a gwerthuso cynllun gweithredu’r Strategaeth Chwarae gan sicrhau bod y Strategaeth Chwarae yn dylanwadu’n wirioneddol a pharhaol ar brofiadau chwarae plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.
  • Ailddatblygu cynllun gweithredu’r Strategaeth Chwarae pob blwyddyn i fod yn barod ar gyfer datblygiadau lleol a chenedlaethol ynglŷn â chwarae.
  • Cyflawni swyddogaeth ymgynghorol i’r Fframwaith Plant a Phobl Ifanc ynghylch popeth sy’n ymwneud â chwarae a rhoi adroddiadau rheolaidd iddynt.
  • Creu cysylltiadau strategol gyda strategaethau eraill a sicrhau bod chwarae wedi ei gynnwys ar agendau grwpiau eraill a’i fod yn rhan annatod o gynlluniau a mentrau priodol.
  • Sicrhau bod mecanweithiau yn barod a fydd yn annog pob rhanddeiliad i wneud cyfraniad parhaol at weithredu’r Strategaeth Chwarae yn y dyfodol.
  • Sicrhau y cynrychiolir pob asiantaeth ac adran berthnasol ar y fforwm ac y cedwir y gynrychiolaeth hon y tu hwnt i newidiadau personél.

Amlder cyfarfodydd:

Bydd y Fforwm Chwarae Strategol yn cyfarfod bob dau fis trwy gydol y flwyddyn. Bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu trefnu os bydd aelodau’n cytuno bod eu hangen.

Bydd y Fforwm Chwarae Strategol yn rhoi trosolwg ar weithredu’r Strategaeth Chwarae. Bydd grwpiau gorchwyl a gorffen ar wahân yn cael eu sefydlu o’r fforwm hwn i ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol a chwblhau camau gweithredu unigol lle bo angen.

Aelodaeth:

Dylai aelodau’r Fforwm Chwarae Strategol, lle bynnag y bo modd, fynychu’r cyfarfodydd deufisol. Os nad yw rhywun yn gallu bod yn bresennol am ryw reswm, dylai geisio dynodi cynrychiolydd addas o’i adran/sefydliad i fynd i’r cyfarfod ar ei ran.

Dylai’r Fforwm Chwarae Strategol gynnwys aelodau sy’n cynrychioli’r canlynol:

  • Datblygu Chwarae
  • Gwasanaethau Chwarae Plant ag Anableddau
  • Adran yr Amgylchedd (gyda sylw arbennig i barciau a mannau chwarae)
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cynllunio
  • Rheoli Asedau a Chludiant
  • Datblygu Economaidd
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Hamdden
  • Partneriaeth Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Y Cyfnod Sylfaen
  • Dechrau’n Deg
  • Addysg Gynradd ac Uwchradd
  • Ysgolion Iach
  • Ysgolion Bro
  • Prifysgol Glyndŵr
  • Clybiau Plant Cymru Kids Clubs
  • EW Play (North East Wales Play Forum)
  • Police and Community Safety Partnership
  • Gwasanaethau Rhianta
  • AVOW
  • Ymddiriedolaeth GIG
  • Bwrdd Iechyd Lleol

Ar ben hyn, bydd y Fforwm Chwarae Strategol yn cynnwys pump o gynrychiolwyr o’r Rhwydwaith Chwarae ehangach yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Rhwydwaith. Bydd pob un o’r cynrychiolwyr hyn yn gyfrifol hefyd am gynrychioli un o’r meysydd ffocws canlynol:

  • Gwirfoddolwyr yn y Gymuned
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Darparu Gwaith Chwarae
  • Ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf
  • Darparu Chwarae yn y Blynyddoedd Cynnar

yn ôl i'r brig