Diwrnod Chwarae

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod y mae’r DU i gyd yn dathlu Hawl Plant i Chwarae, dydd Mercher cyntaf mis Awst pob blwyddyn.

Mae Rhwydwaith Chwarae Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae cenedlaethol pob blwyddyn trwy gynnal digwyddiad chwarae mawr am ddim agored i bawb o 12pm tan 4pm yng nghanol y dref ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf.

Pob blwyddyn mae gan y Diwrnod Chwarae ymgyrch wahanol. Ymysg yr ymgyrchoedd a fu oedd “Ein Strydoedd Ni Hefyd!” a roddodd sylw i’r angen am newid er mwyn i blant, pob ifanc a’u teuluoedd deimlo’n hyderus am chwarae yn y strydoedd a’r mannau ger eu cartrefi. Roedd “Rhowch Gynnig i Ni!” yn galw am roi cyfleoedd i blant chwarae sy’n cynnig her ac antur gyda’r bwriad o gael gwared â’r diwylliant rhy ofalus sy’n gallu cyfyngu ar chwarae plant a “Gwneud Amser!” a ofynnodd i bawb wneud amser i chwarae, yn cynnwys rhieni, gofalyddion ac athrawon yn ogystal â gwneuthurwyr polisi a chynllunwyr.

Pob blwyddyn daw sefydliadau o bob rhan o Wrecsam at ei gilydd i hyrwyddo ymgyrch y Diwrnod Chwarae a darparu cyfleoedd chwarae llawn cyffro i blant a phobl ifanc. Mae’r digwyddiadau yn cynnig rhywbeth i bawb sy’n mwynhau chwarae, yn cynnwys y cyfle i wlychu a gwneud llanast!

I gael mwy o wybodaeth neu gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Datblygu Chwarae CBSW.

yn ôl i'r brig