Cynlluniau Chwarae a Buarthau Chwarae

Darpariaeth Chwarae Heb Staff

I gael gwybod am fuarthau chwarae plant, lleiniau adloniadol a darpariaeth chwarae ieuenctid (gan gynnwys ardaloedd chwaraeon amlddefnydd a pharciau sglefrio) cliciwch yma. Fel arall os hoffech gael gwybod mwy am un o 11 parc cyhoeddus mwy Wrecsam cliciwch yma.

Darpariaeth Chwarae Gyda Staff

Mae nifer gynyddol o brosiectau chwarae ‘mynediad agored’ wedi’u staffio yn gweithredu yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau chwarae a meysydd chwarae antur.  Edrychwch ar y wybodaeth isod am y prosiectau chwarae fydd yn cael eu cynnal yn ystod 2011/12.

Enw Disgrifiad Manylion cyswllt
Prosiect Chwarae Acrefair Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod gwyliau’r haf. Dydd Llun i ddydd Mercher, 9am – 1pm yng Nghanolfan Gweithgareddau a Champws Ysgol Acrefair.  Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Acton Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod gwyliau’r Pasg a gwyliau’r haf. Dydd Llun i ddydd Iau, 2pm tan 4pm, ym Mharc Acton.  Canolfan Plant a Theuluoedd Acton   01978 312332
Prosiect Chwarae Bangor Is y Coed Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod gwyliau’r haf ar ddydd Iau, 12pm tan 4pm, yng nghae chwarae Bangor Is y Coed. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Brymbo Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 1pm, mewn gwahanol leoliadau ar draws Brymbo. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Brynteg Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Yn Solway Banks a Gaffneys. Swyddfa Strategaeth Broughton 01978 756531
Prosiect Chwarae Cefn Mawr Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod gwyliau’r Pasg a gwyliau’r haf. Dydd Mawrth i ddydd Iau, 12pm tan 3pm yng Nghanolfan Gweithgareddau Cefn Mawr. Canolfan Gweithgareddau Cefn Mawr 01978 821515
Prosiect Chwarae Dyffryn Ceiriog Ar gyfer plant 4 i 15 oed. Cynhelir yn ystod gwyliau’r haf, a gwyliau hanner tymor Hydref a Chwefror. 9.30am tan 12.30pm yng Nghanolfan Ceiriog. Canolfan Ceiriog 01691 718200
Prosiect Chwarae’r Waun Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 1pm mewn gwahanol leoliadau ar draws y Waun. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Gresffordd Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Mawrth a dydd Iau, 12pm tan 3pm, ym Mharc Allington. Canolfan Adnoddau Llai 01978 859020
Maes Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro Gaeaf
Yn ystod tymor yr ysgol – dydd Mawrth i ddydd Gwener, 4pm tan 7pm, dydd Sadwrn a dydd Sul, 11am tan 7pm
Yn ystod gwyliau’r ysgol – dydd Mawrth i ddydd Sul, 11am tan 7pm 
Haf
Yn ystod tymor yr ysgol – dydd Mawrth i ddydd Gwener, 4pm tan 8pm, dydd Sadwrn a dydd Sul, 12pm tan 8pm                         Yn ystod gwyliau’r ysgol – dydd Mawrth i ddydd Sul, 12pm tan 8pm
Dyffryn Gwenfro ar 01978 264994
Prosiect Chwarae Gwersyllt Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 2pm tan 5pm mewn gwahanol leoliadau ar draws Gwersyllt. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Llai Ar gyfer plant 8 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 12pm tan 3pm, yng Nghae Ysgol Llai. Canolfan Adnoddau Llai 01978 859020
Prosiect Chwarae Offa Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 2pm tan 5pm, mewn gwahanol leoliadau ar draws Offa. Y Tîm Datblygu Chwarae       01978 340740
Prosiect Chwarae Penycae Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 2pm tan 5pm, mewn gwahanol leoliadau ar draws Penycae. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Plas Madog Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Canolfan Gyfleoedd Plas Madog 01978 813919
Prosiect Chwarae’r Rhos a Johnstown Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 2pm tan 5pm, mewn gwahanol leoliadau ar draws Rhos a Johnstown. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Rhosddu Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 1pm, mewn gwahanol leoliadau ar draws Rhosddu. Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Prosiect Chwarae Rhostyllen Ar gyfer plant 5 i 15 oed. Cynhelir yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 1pm, yn Neuadd y Plwyf (caeau drws nesaf). Y Tîm Datblygu Chwarae 01978 340740
Maes Chwarae Antur The Venture Yn ystod tymor yr ysgol – dydd Mawrth i ddydd Gwener, 4pm tan 8pm, dydd Sadwrn a dydd Sul, 12pm tan 8pm
Yn ystod gwyliau’r ysgol – dydd Mawrth i ddydd Sul, 12pm tan 8pm
The Venture 01978 355761

Sylwer, caiff plant dan 8 oed fod yn bresennol os oes oedolyn gyda nhw. 

Os hoffech gael gwybod am wasanaethau gofal plant yn Wrecsam gan gynnwys darpariaeth chwarae i blant dan bump oed, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Chwarae a Pherygl

"Mae iechyd a diogelwch call yn ymwneud â rheoli risgiau, nid cael gwared â phob un. Nid gwaith HSE (Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch) yw sathru ar bleserau syml lle bynnag y maent yn digwydd beth bynnag fo’r gost. Rydym yn cydnabod y manteision o ran plant yn datblygu eu chwarae, sydd o raid yn cynnwys rhywfaint o berygl, ac ni ddylid aberthu hyn wrth gyrchu’r nod amhosibl o ddiogelwch llwyr."
Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, Ionawr 2005

Trwy fentro a chael profiadau chwarae anturus mae plant yn gallu ymestyn eu hunain, rhoi prawf ar gyfyngiadau’r amgylchedd o’u cwmpas, datblygu sgiliau datrys problemau a dod o hyd i ddulliau creadigol o ymdrin â sefyllfaoedd newydd. Yn y pen draw, mae profiad o berygl wrth chwarae yn dylanwadu ar allu plentyn i ymaddasu a gwrthsefyll, ymdopi â digwyddiadau dan bwysau ac mae’n fodd felly iddynt gynnal eu lles eu hunain.

Mae’n bwysig cydnabod nad yw chwarae lle mae peryglon yn golygu o raid ei fod yn beryglus. Mae bron pob math o chwarae yn cynnwys rhywfaint o berygl corfforol neu emosiynol, boed hynny’n gadw cytbwysedd, dringo, canu, gwisgo i fyny neu hyd yn oed chwarae efo rhywun newydd. Mae chwarae lle mae peryglon yn gallu bod yn unrhyw gyfle i chwarae sy’n rhoi ymdeimlad o antur i blant ac sy’n fodd iddynt fentro allan o, neu o leiaf at fin yr hyn sy’n gyfarwydd ac yn gysurus iddynt. Yn amlwg, mae arnom ni eisiau osgoi anafiadau difrifol ond mae ambell i gnoc neu friw yn rhan bwysig o chwarae oherwydd bod plentyndod yn cynnwys llawer iawn o arbrofi a chamgymeriad. Er enghraifft, ni fyddem ni byth yn dysgu cerdded oni bai ein bod yn cael syrthio.

Mae Gweithwyr Chwarae wedi eu hyfforddi i hwyluso chwarae lle mae peryglon a dewis dull o ymyrryd sy’n cadw’r ddysgl yn wastad rhwng diogelwch a manteision datblygiadol caniatáu i blant ddal i chwarae.

Creu Amgylchedd Chwarae Cyfoethog

Nod lleoliadau chwarae mynediad agored yw cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud ag a chael profiad o’r canlynol yn rhan o amgylchedd chwarae sydd wedi ei gyfoethogi:

Amgylchedd ffisegol amrywiol a diddorol
Pethau ar wahanol lefelau, mannau agored o wahanol feintiau, lleoedd i guddio, lleoedd sy’n ysbrydoli dirgelwch a dychymyg, coed a pherthi i chwarae ynddynt, yn ogystal ag adeileddau o waith dyn.
Her mewn perthynas â’r amgylchedd ffisegol
Gweithgareddau sy’n rhoi prawf ar ffiniau galluoedd plant, tipyn o gythrwbl, chwaraeon, gemau criw a sgrialu.
Chwarae gyda’r elfennau naturiol – pridd, tân, dŵr ac aer.
Tanau agored, palu yn y pridd, chwarae peli eira a hedfan barcutiaid.
Symud – rhedeg, neidio, rholio, dringo a chadw cytbwysedd
Trawstiau cydbwyso ac ysgolion rhaffau, matiau meddal, reidio beic, jyglo ac offer syrcas, a lle i redeg.
Trin defnyddiau naturiol ac o waith dyn
Defnyddiau ar gyfer coginio, gwneud a thrwsio o bob math, adeiladu llochesi, gwneud cymysgeddau, defnyddio offer/taclau, modd cael manion a sbarion o bob math.
Ysgogi’r pum synnwyr
Gwneud cerddoriaeth, mannau lle mae gweiddi yn iawn, mannau tawel, gwahanol liwiau a ffurfiau, mannau tywyll a disglair, coginio ar dân agored, dail sy’n pydru, amrywiaeth o fwydydd a diodydd, pethau meddal, pigog, hyblyg, mawr a bach.
Newid yn yr amgylchedd naturiol
Cael profiad o’r tymhorau trwy fynd allan i’r amgylchedd awyr agored; cyfleoedd i gymryd rhan mewn adeiladu, dymchwel neu weddnewid yr amgylchedd.
Rhyngweithio cymdeithasol
Medru dewis a ydynt am, neu bryd i chwarae’n unigol neu gydag eraill, trafod, cystadlu a datrys gwrthdaro. Medru rhyngweithio gydag unigolion a grwpiau o wahanol oedrannau, galluoedd, diddordebau, rhyw, ethnigrwydd a diwylliant.
Chwarae gyda hunaniaeth
Chwarae gwisgo, chwarae rôl, perfformio, cymryd rhan mewn gwahanol fathau o gyfrifoldebau.
Amrywiaeth o emosiynau
Cyfleoedd i fod yn bwerus/di-bŵer, yn ofnus/hyderus, lle mae pobl yn eich hoffi/ddim yn eich hoffi, mewn/allan o reolaeth, yn ddewr/llwfr ac ati ac ati.
Lleoedd ar wahân
Cyfleoedd i blant fynd i leoedd bach preifat lle maent yn gallu meddwl, ymlacio a siarad. Fodd bynnag, er mwyn diogelwch y plant, mae’n rhaid i’r gweithwyr fedru gweld y lleoedd hyn.
Lle da i chwarae
Symudiad yn yr amgylchedd gyda phethau fel baneri, melinau gwynt a siglenni rhaffau. Mae’n rhaid i’r lle fod yn fywiog, llawn o liwiau a gwahanol weadau. Mae’n rhaid i’r lle estyn caniatâd i chwarae h.y. mae’n angen golwg ‘lle da i chwarae’ arno.

Cymorth i Blant ag Anableddau

Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW wedi ymrwymo i gynnal hawl pob plentyn i chwarae. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y bydd ar rai plant angen mwy o gymorth na’i gilydd i fynd at gyfleoedd i chwarae. Efallai y bydd ar rai plant angen mynd at ddarpariaeth arbenigol lle mae cyfleusterau sy’n addas i’w hanghenion penodol hwy o ran cymorth. Efallai y bydd ar blant eraill angen rhyw ychydig o gymorth ychwanegol a fydd yn fodd iddynt ddod i ddefnyddio darpariaeth o chwarae gyda gweithwyr yn eu cymuned eu hunain.

Os oes ar eich plentyn chi awydd dod i un o’r lleoliadau chwarae mynediad agored yn Wrecsam ond bod ganddi/ganddo anabledd cydnabyddedig a allai ofyn cymorth ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Datblygu Chwarae CBSW. Byddwn ni wedyn yn ceisio trefnu bod un o’n gweithwyr chwarae yn darparu cymorth ychwanegol i’ch plentyn. Wrth wneud hyn, rydym yn cydnabod hefyd na fydd natur mynediad agored y cynlluniau chwarae yn addas efallai i bob plentyn ac efallai y bydd angen i ni sefydlu mesurau arbennig ar gyfer gofynion plant unigol o ran cymorth.

Os nad oes anabledd gan eich plentyn chi ond bod rhyw rwystr yn ei atal rhag dod i ddarpariaeth o chwarae am reswm arall, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm a byddwn yn ceisio dod o hyd i ryw fodd i ddatrys y broblem.

"Mynediad Agored" Cwestiynau Cyffredin

Beth yw darpariaeth o chwarae "mynediad agored "?

Mae darpariaeth o chwarae mynediad agored yn darparu fel arfer ar gyfer plant o 5 i 15 oed ac mae pob plentyn yn gallu dod iddo am ddim.

Mae darpariaeth o chwarae mynediad agored yn gallu bod yn barhaol neu am gyfnod byr. Mae’n gallu bod mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda neu heb adeiladau, ac mae’n gallu cynnwys canolfannau chwarae, meysydd chwarae antur, cynlluniau chwarae yn y gwyliau a phrosiectau gwaith chwarae sy’n mynd o amgylch.

Mae’r bobl sy’n gofalu am ddarpariaeth o chwarae mynediad agored yn Weithwyr Chwarae wedi eu hyfforddi i ddeall cymhlethdod chwarae plant. Nod y Gweithwyr Chwarae yw creu amgylcheddau chwarae cyfoethog a rhoi cymorth i blant fedru estyn eu profiadau o chwarae.

Beth yw ystyr "mynediad agored " a sut mae’n wahanol i ofal plant?

Yn union fel pob to o blant o’r blaen, mae angen rhoi rhyddid ac annibyniaeth i blant heddiw benderfynu eu hunain pryd, lle a gyda phwy y maent yn chwarae. Mewn darpariaeth o chwarae mynediad agored yn rhydd i symud fel y maent yn mynnu , oni bai am ystyriaethau o ddiogelwch, ac yn rhydd i ddod i’r lleoliad a mynd oddi yno fel y dymunant. Nid yw Gweithwyr Chwarae yn gyfrifol am sicrhau bod plant yn aros ar y safle am gyfnod o amser penodol. Felly, ni ddylid drysu rhwng darpariaeth o chwarae mynediad agored a gofal plant.

Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn cydnabod y gall darpariaeth o chwarae “mynediad agored” fod yn anaddas i rai oherwydd y gofynion penodol sydd gan rai plant unigol o ran cymorth. Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen Cymorth i Blant ag Anableddau.

Pam mae angen darpariaeth o chwarae mynediad agored arnom?

Fel y mae Polisi Chwarae Wrecsam yn cydnabod, mae chwarae yn hanfodol i les cyfannol a datblygiad iach plant. Yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw lleihau y mae’r cyfleoedd i blant chwarae’n annibynnol heb oedolion. Er mwyn i blant gael yr holl fanteision a ddaw o chwarae mae’n rhaid i ni greu amgylcheddau lle maent yn gallu chwarae’n rhydd a darganfod amrywiaeth fawr o wahanol gyfleoedd i chwarae, lle mae’r oedolion sy’n cymryd rhan yn deall natur a phwysigrwydd pob agwedd ar chwarae plant ac yn gweithio er mwyn ei gynnal.

Nod darpariaeth o chwarae mynediad agored yw digolledu plant am y cyfleoedd i chwarae sydd wedi eu colli o ganlyniad i gynnydd y drafnidiaeth ar ein ffyrdd, ofnau ynghylch pobl ddieithr a diogelwch plant yn ogystal â cholli lleoedd naturiol i chwarae.

Pwy sy’n darparu gwasanaethau chwarae "mynediad agored "?

Yn Wrecsam, sefydliadau gwirfoddol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r prosiectau chwarae mynediad agored a’r awdurdod lleol sy’n rheoli rhai ohonynt. Cewch weld pwy sy’n gyfrifol am eich prosiect chwarae mynediad agored agosaf ar ein tudalen cynlluniau chwarae a meysydd chwarae.

Os ydych chi am wybod sut y gallwch chi wneud mwy gyda chefnogi chwarae plant yn eich cymuned, clic yma os gwelwch yn dda.

yn ôl i'r brig