Datblygu Chwarae Plant Sut allwch Cymorth wyf Chwarae

Cyngor i Gefnogi Plant i Chwarae Allan Yn Hyderus

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cofio'r hwyl a rhyddid o chwarae allan a'r manteision enfawr o wneud hynny:

  • cwrdd a chael anturiaethau gyda ffrindiau
  • dod i adnabod ein cymdogaeth fel cefn ein llaw a theithio o'i hamgylch fel y mynnem
  • dod i adnabod nodweddion pobl leol - pwy i'w osgoi a phwy y medrem ymddiried ynddynt - a
  • hwythau'n dod i'n hadnabod ni ac ymddiried ynom (neu beidio!)
  • bod yn gorfforol egniol
  • bon yn hunan-ddibynnol, dyfeisgar ac annibynnol

Rydym i gyd yn gyfrifol am gefnogi a pharatoi ein plant i chwarae allan yn hyderus yn eu cymuned:

Paratoi plant i fod yn ddiogel ar y ffordd
Medrwn baratoi plant at gyfer cerdded a beicio'n annibynnol drwy wneud a dangos iddynt o oedran ifanc iawn sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar ac o amgylch ffyrdd.
Ymgyfarwyddo plant gyda'u cymdogaeth
Medrwn gerdded a beicio yn yr ardal leol a helpu plant i sylwi ar lwybrau diogelach i ofodau chwarae a lleoedd eraill y maent eisiau mynd yn annibynnol iddynt yn eu cymuned.
Gweithio gyda phlant
Unwaith y byddant yn ddigon cymwys i deithio o amgylch a chwarae allan hebom, medrwn gytuno gyda phlant ble a pha mor hir y maent yn mynd allan i chwarae. Mae'n ein helpu ni a hwythau os medrant ddweud yr amser, yn adnabod eu cymdogaeth ac yn gwybod beth yw eu cyfeiriad a'u rhif ffôn.
Cadw'n pryderon mewn persbectif
Medrwn geisio bod yn realistig am ein hofnau ar gyfer diogelwch plant. Mae manteision chwarae allan yn llawer mwy na'r risgiau.
Cymryd ymagwedd gymunedol
Deuwn i adnabod pobl leol - cymdogion a theuluoedd eraill - a chytuno cadw llygad allan am blant. Po fwyaf o blant sy'n chwarae allan, y mwyaf diogel fydd ein plant.
Newid ein hamgylchedd
Medrwn ymuno gydag eraill yn lleol i ymgyrchu dros newidiadau yn ein cymdogaeth a fedrai wneud ei hamgylchedd yn un lle gall plant chwarae allan yn hyderus.
Edrych ar ein harferion gyrru ein hunain
Fel gyrrwyr medrwn ostwng ein cyflymder a gyrru fel y byddem yn dymuno i eraill wneud mewn strydoedd preswyl lle mae ein plant yn chwarae.

Sut Alla’i Gymryd Rhan?

Mae pob math o ddulliau y gall pobl gymryd rhan i helpu plant i chwarae, yn amrywio o gynghori mwy o oddefgarwch tuag at chwarae yn eu cymuned i ddatblygu darpariaeth ar gyfer chwarae gydol y flwyddyn.

Dyma rai o’r dulliau o gymryd rhan a allai apelio atoch chi:

  • Ymuno â Rhwydwaith Chwarae Wrecsam a chyfarfod pobl eraill sy’n ymwneud â chynnal hawliau plant i chwarae yn Wrecsam.
  • Cymryd rhan mewn Gwaithchwarae trwy wirfoddoli mewn lleoliad chwarae lleol neu drwy fynd ar un o’n cyrsiau hyfforddi. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
  • Ymweld â’n tudalen Cynlluniau Chwarae a Meysydd Chwarae i weld oes ’na brosiect chwarae agored yn digwydd yn barod yn eich cymuned chi. Os oes, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwarae CBSW i holi sut medrwch chi gynnig eich cymorth.
  • Darllenwch gynghorion Chwarae Cymru ar gyfer helpu plant i chwarae allan gyda hyder.
  • Gwelwch ein syniadau ar gyfer gemau a rhoi cynnig ar rai o’r rhain efo’r plant yn eich teulu chi.

Mae pawb yn gallu helpu i roi cymorth i blant chwarae rhyw fodd neu’i gilydd hyd yn oed trwy ddim ond aros am funud i geisio cofio pa fath o beth oedd chwarae pan oeddech chi’n blentyn ac wedyn ceisio bod ychydig bach yn fwy goddefgar tuag at ymddygiad plant yn eu chwarae. Haws dweud na gwneud weithiau hefyd oherwydd bod oedolion yn anghofio’n ddigon hawdd beth oedd bod yn blentyn, yr adeg pan oedd arnoch chi eisiau chwarae a fawr ddim byd arall.

Gemau a Gweithgareddau

Dyma syniadau hawdd a rhad i helpu eich plant i chwarae.

Swigod Mawr
Wnaethon ni hyn yn y diwrnod chwarae ac roedd yn hwyl aruthrol. Wnaethon ni gymysgu llond bwcedi a defnyddiodd y plant hen gambrenni cotiau i wneud y swigod.
9 llond cwpan o ddŵr
1 llond cwpan o hylif golchi llestri da Gwyrdd neu Felyn (mae’n gwneud gwahaniaeth)
1/4 llond cwpan o glyserin
Ei gymysgu’n araf heb greu ewyn. Mae’n well iddo sefyll dros nos.
Helfa sborion
Anfon plant i chwilio am bethau ar restr. I newid y gêm gallech anfon y plant i chwilio am bethau o un lliw yn unig neu bethau sy’n mynd i focs matsis ac ati.
Helfa darnau o linyn
Crogwch ddarnau o linyn i gyd o wahanol hyd o gwmpas y lle. Yr enillydd yw’r un efo’r llinyn hiraf. Ymhen amser bydd y plant yn dod i ddeall eu bod yn gallu eu clymu gyda’i gilydd i ennill. Mae’n helpu os ydych yn ffurfio tîm.
Dyddiau mabolgampau
Ras gyfnewid gwisg ffansi. Yn lle pasio ffon mae’n rhaid iddyn nhw wisgo’r wisg ffansi, ras ferfa, ras gocyn ceiliog, wy a llwy.
Gwneud barcut
Mae modd gwneud barcutiaid o fagiau plastig, defnydd tenau neu bapur.
Rhaff danfon deillion
Mae gan y plant i gyd fygydau dros eu llygaid ac maen nhw’n dal y rhaff. Mae’r un sy’n arwain yn gallu gweld ac mae’n arwain pawb, sef ‘danfon y deillion’ o amgylch cwrs e.e. i fyny ac i lawr palmentydd, o dan fatiau criced sy’n cael eu dal allan neu gangau, ac ati.
Gwe pry cop
Gwnewch we anferthol efo llinyn neu raff a dringo drwyddi heb gyffwrdd a’r llinyn.
Brwydr ddŵr
Defnyddiwch boteli pop, cwpanau papur, peipen ddŵr, sosbenni a bwcedi yn ogystal â gynnau dŵr a bomiau dŵr.
Gêm bocs grawnfwyd
Rhaid ei godi efo’u dannedd, dwylo a phengliniau a rhaid iddo beidio â chyffwrdd â’r llawr. Yn raddol, dal ati i rwygo’r rhan uchaf i ffwrdd hyd nes bydd yn wirioneddol anodd ei wneud.
Glŵp
Blawd corn ac ychydig bach o ddŵr wedi eu cymysgu’n araf iawn. Mae’n creu slwtsh gwych sy’n teimlo’n solet ond â golwg hylif arno.
Modelau sborion
Llesol iawn i’r amgylchedd. Gadewch i blant roi penrhyddid i’w dychymyg a chreu modelau efo hen focsys grawnfwyd, cardiau canol rholyn tŷ bach ac unrhyw hen sborion diddorol. Mae modelu efo sborion yn gweithio’n dda hefyd efo tiwbiau carpedi mawr, bocsys cardboard mawr a digonedd o baent.
Cerfluniau tân
Plethu brethyn trwy weiren cwt ieir, tywallt paraffin arno a’i danio (golwg wych ar hyn yn y tywyllwch) .
Gwneud eich paent a’ch brwshys eich hun
Defnyddio brigau, mwd, dŵr a hyd yn oed bwyd.
Tân
Unwaith y bydd y tân neu’r barbeciw yn llosgi’n ddiogel, rhowch gynnig ar goginio ‘toesenni’ wedi’u gwneud o flawd a dŵr. Lapiwch y toes o gwmpas ffon a’i fwyta efo jam. Byddech chi’n medru rhoi cynnig ar datws trwy’u crwyn, pobi bananas ac ati ar dân agored. Cofiwch sicrhau bod eich yswiriant yn iawn ar gyfer hyn ac os yw’n caniatáu gwnewch yn eich lle chi eich hun. Os nad ydyw, gallwch wneud yn y gegin oherwydd bod plant yn aml yn hoffi coginio.
Mwydion Papur Mawr
Cofiwch fod angen oes mul ar hwn i sychu a bod angen ei adeiladu’n raddol gan roi amser i bob haen sychu cyn gwneud y nesaf. Mae gennym siwtiau papur wedi’u stwffio i wneud modelau maint go iawn, neu gallwch wneud ffrâm efo weiren cwt ieir.
Paentio wynebau a gwisg ffansi.
 
Paentio platiau papur
Mae paentio platiau papur yn gwneud mygydau neu arwyddion drysau llofftydd gwych.
Paentio swigod
Rhowch hylif golchi llestri a dŵr efo paent powdr. Chwythwch i mewn iddo trwy welltyn a rhoi papur tros y paent i gael llun swigod.
Cwffio clustogau
 
Adeiladu lloches
Does dim rhaid i lochesi fod wedi eu gwneud o bren. Mae plant yn gallu gwneud llochesi o frethyn a llinyn.
Gemau cylch
Smicio Mwrdwr, Sibrydion Tsieineaidd, Hwyaden Hwyaden Gŵydd ac ati
Tic, Tag ac ati.
Tic oddi ar y llawr – un ai mae’n rhaid i bawb gadw oddi ar y llawr neu ei newid fel bod oddi ar y llawr yn ddiogel. Ffon yn y mwd ac ati.
Sglefrio dŵr neu fwd.
 
Adeiladu Gwibgart.
 
Gwneud rampiau beic.
Eu gwneud gydag estyllod a darnau o bren. Gwyliwch rhag ofn bod hoelion yn ymwthio allan, maen nhw’n gallu tyllu’ch teiars.
Paentio mawr
Defnyddiwch hen sbarion o bapur wal, i’r dim ar gyfer paentio traed a rhannu llun.
Gwneud offerynnau cerdd.
Bocsys efo bandiau lasting i wneud gitarau, bwyd sych mewn cynwysyddion i wneud offerynnau ysgwyd, drymiau wedi eu gwneud o offer cegin ac ati.
Gemau criw mawr e.e.
Ysgolion, Capten yn Dod, Goleuadau Traffig, Sibrydion Tsieineaidd ac ati

O ie! Rydyn ni wastad yn chwilio am syniadau newydd felly os oes gennych chi rai anfonwch nhw atom ni os gwelwch yn dda yn play@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig