Beth yw chwarae?

Chwarae yw’r hyn y mae ar blant eisiau ei wneud a’r hyn y maent yn dewis ei wneud o gael y rhyddid, yr annibyniaeth, yr amser a’r lle i benderfynu eu hymddygiad eu hunain. Mae gan bob plentyn yr awydd naturiol i chwarae a bydd felly yn chwarae lle bynnag y caiff gyfle.

Mae chwarae plant yn gallu bod yn hapus neu’n drist, yn swnllyd neu’n ddistaw, yn llonydd neu’n rhemp, yn greadigol neu’n ddinistriol, yn gymdeithasol neu’n unig ac yn ddychmygol neu’n wir. Weithiau gall chwarae fod yn beryglus, adegau eraill bydd yn hwyliog ac yn aml iawn bydd i bob golwg yn wirion bost.

Wrth chwarae bydd plant yn naturiol ddigymell a gallent symud yn gyflym o un math o chwarae i’r llall. Mae chwarae plant yn annhebyg i lawer o ymddygiad oedolion. Yn aml, nid oes llawer o drefn iddo, gall y camau y mae’n ei gynnwys ymddangos yn afresymegol ac ar hap ac mae’n debygol na fydd diben na nod amlwg iddo.

Mae chwarae’n cael ei ddewis yn rhydd, yn cael ei gyfeirio’n bersonol ac mae cymhelliad cynhenid iddo. Mae’n hanfodol bwysig i les corfforol a meddyliol pob plentyn ac mae’n ganolog ym mywyd plentyn iach.

Mae Polisi Chwarae Wrecsam 2009 yn cynnwys ein diffiniad ni o chwarae plant ac mae’n egluro ein dealltwriaeth ni o’i bwysigrwydd hanfodol ym mywydau plant.

Mae Chwarae yn Bwysig

Hawl plentyn yw chwarae a dyna yw hanfod plentyndod. Chwarae yw’r hyn y mae bod yn blentyn yn ei olygu. Bydd gan bron i bob oedolyn atgofion hapus o chwarae pan oedd yn blentyn a bydd y rhai heb atgofion o’r fath o dan anfantais o’r herwydd. Os ydym yn gwerthfawrogi ein plant ac yn eu hystyried yn ddinasyddion cyfartal, yna mae’n rhaid i ni gynnal eu hawl i chwarae.

Beth mae chwarae yn ei wneud i blant?

  • Mae chwarae yn hanfodol bwysig o ran y modd y mae ymennydd plentyn yn datblygu. Mae plant, wrth chwarae, yn rhoi gwahanol rannau o’r ymennydd ar waith yn ddi-baid ac mae hyn yn helpu i greu cysylltiadau yn yr ymennydd y mae eu hangen ar gyfer deall ac mae’n fodd i’r ymennydd gadw’r gallu ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
  • O gael cyfle i chwarae, mae’n fwy tebygol y bydd plant yn defnyddio eu cyrff wrth redeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio neu dynnu. Mae chwarae yn gymorth i ddatblygu cyhyrau plant ac mae’n gallu bod yn gymorth i’w cadw’n heini ac yn iach.
  • Wrth chwarae, mae plant yn cael profiad o amrywiaeth fawr o emosiynau yn cynnwys cyffro, rhwystredigaeth, penderfyniad, cyflawni, siom a gofid, a gydag ymarfer, maent yn gallu dysgu sut i reoli’r rhain.
  • Chwarae yw dull plant o arbrofi ac archwilio’r byd o’u cwmpas ac o ganlyniad i hynny mae pob profiad a ddaw i ran plant yn eu chwarae yn fuddiol iddynt.
  • Wrth chwarae gyda’u cyfoedion ac ymwneud ag amrywiaeth fawr o wahanol bobl mae plant yn datblygu eu medrau cymdeithasol ac maent yn gallu meithrin cyfeillgarwch cadarn, sy’n cynnig teimladau pendant o hapusrwydd a pherthyn.
  • Wrth fentro a chael profiadau o chwarae anturus, mae plant yn gallu herio eu hunain, rhoi prawf ar gyfyngiadau’r amgylchedd o’u cwmpas, dod yn fedrus wrth ddatrys problemau a dysgu dulliau creadigol o ymdrin â sefyllfaoedd newydd. Mae chwarae yn dylanwadu ar allu plentyn i ymaddasu a bod yn wydn, ymdopi â digwyddiadau lle mae o dan bwysau ac mae’n fodd felly iddynt gynnal eu lles eu hunain.
  • Chwarae yw dull plant o ryddhau straen a “chwythu stêm”. Trwy chwarae o’r dychymyg mae plant yn gallu ail-fyw profiadau y maent wedi eu cael rhyw dro arall yn eu bywydau a dechrau deall sut mae mynd i’r afael â’r rhain.
  • Yn y pen draw, mae chwarae yn hanfodol bwysig er mwyn i’r hil ddynol barhau i ddatblygu a goroesi. Dyma’r modd yr ydym ni, yn fodau dynol, yn dysgu ymadweithio i’r byd o’n cwmpas a’r modd yr ydym yn deall lle’r ydym ynddo. Yr un modd yn union â gyda llawer o rywogaethau eraill o anifeiliaid, mae chwarae yn hanfodol i rai ifanc ein rhywogaeth ni ac, o ganlyniad, dylem wneud popeth y medrwn ni ei wneud i’w cynorthwyo yn hyn o beth.

I ddysgu am y modd y mae chwarae yn cyfrannu at ac yn ategu Saith Nod Craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant, ewch at: www.playwales.org.uk/page.asp?id=783

Amddifadedd Chwarae

"Amddifadedd Chwarae maent yn galw’r syniad y gallai peidio â chwarae amddifadu plant o brofiadau y tybir eu bod yn hanfodol i ddatblygu gyda’r canlyniad bod anableddau biolegol a chymdeithasol ar y rhai sy’n ei ddioddef" Chwarae Cymru, 2006.

Mae ymchwil wedi dangos bod llawer llai o gyfleoedd gan blant heddiw i chwarae’n rhydd o’u cymharu â phlant yn y gorffennol a’u bod o ganlyniad yn colli’r holl fanteision a ddaw o gael profiadau o chwarae da.

Dyma rai o’r ffactorau yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw sydd wedi amharu ar ryddid plant i chwarae:

  • Llawer iawn mwy o draffig ar ein ffyrdd
  • Llai o le agored addas i chwarae yn ymyl cartrefi’r plant
  • Mwy o ofnau ynghylch peryglon pobl ddieithr
  • Llai o gymunedau clos lle mae oedolion yn gefn i’w gilydd ac yn cadw golwg ar blant ei gilydd
  • Mae gan rai pobl lawer llai o amynedd efo ymddygiad naturiol plant wrth chwarae
  • Y "diwylliant beio" ac ofn mynd i gyfraith
  • Mwy o alwadau ar amser rhydd plant

I weld y modd yr ydym yn ceisio newid a mynd i’r afael ag amddifadedd chwarae a gwella profiadau chwarae plant yn Wrecsam, mae croeso i chi ddarllen Strategaeth Chwarae Wrecsam 2009 i 2013. Neu, os ydych chi am wybod sut y gallwch chi gymryd rhan yn y gwaith o gynnal hawl plant i chwarae, mae croeso i chi roi clic yma.

yn ôl i'r brig