Mae Gwaith Chwarae yn broffesiwn ac mae gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi i wneud eu gwaith. Mae Gwaith Chwarae wedi datblygu o angen am ddigolledu plant am golli mannau chwarae naturiol ac oherwydd bod llai o’r rhyddid sydd ei angen i chwarae. Mae lleoliadau chwarae gyda gweithwyr yn fodd i blant ddod i amgylcheddau chwarae cyfoethog lle mae’r oedolion sy’n gweithio yn deall ac yn cynnal ymddygiad chwarae naturiol plant.
Mae Gwaith Chwarae yn ymwneud a rhoi amser, lle ac annibyniaeth i blant chwarae fel y maent yn dymuno ar eu telerau eu hunain.
Mae fframwaith o wyth prif ddatganiad, a elwir gyda’i gilydd yn Egwyddorion Gwaith Chwarae, yn ganllawiau ar gyfer arfer Gweithwyr Chwarae a’r rhain sy’n sail i’r modd y dylai pob gweithiwr chwarae weithredu wrth ddarparu ar gyfer chwarae plant.
Mae Gweithwyr Chwarae yn gweithio mewn amrywiaeth fawr o leoliadau yn cynnwys meysydd chwarae antur, cynlluniau chwarae mynediad agored, clybiau gofal plant allan o’r ysgol, canolfannau chwarae, prosiectau chwarae sy’n mynd o le i le ac ysbytai. Yn aml, mae gwaith chwarae yn golygu gweithio gyda’r hwyr a’r penwythnos oherwydd dyna’r amser y mae gan blant yr amser i chwarae.
Cewch fwy o wybodaeth am Waith Chwarae yn: www.playworkwales.org.uk
Mae’r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hyn o beth dylid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Maent wedi eu seilio ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei gyfoethogi o dderbyn mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.
Mae sawl dull a modd o gymryd rhan mewn Gwaith Chwarae yn Wrecsam
Cewch wybod mwy am swyddi ym maes Gwaith Chwarae yn Wrecsam trwy chwilio ar ein tudalen swyddi gwag trwy roi clic yma neu drwy gysylltu â Thîm Datblygu Chwarae CBSW.
Ffordd wych o ddechrau cymryd rhan mewn Gwaith Chwarae yw gwirfoddoli mewn lleoliad chwarae lleol gyda gweithwyr. Trwy fynd yn wirfoddolwr mi gewch chi brofiad gwerthfawr, datblygu eich sgiliau personol ac mewn gwaith chwarae a chael hyfforddiant gwaith chwarae am ddim. Mae’n gyfle gwych hefyd i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, herio eich hun ac wrth gwrs cael hwyl, ac ar ben hynny byddwch yn helpu i gynnal hawl plant i chwarae.
Cewch wybod mwy am fynd yn weithiwr chwarae gwirfoddol yn Wrecsam trwy gysylltu â Thîm Datblygu Chwarae CBSW.
O ran hyfforddiant, mae nifer o lwybrau i’w dilyn gan bobl sydd â diddordeb mewn ennill cymwysterau gwaith chwarae a dechrau cymryd rhan mewn gwaith chwarae. Mae’r Cymwysterau Gwaith Chwarae sydd ar gael yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn amrywio o gyrsiau rhagarweiniol i gymwysterau ar lefel gradd.
I roi syniad bras i chi, bydd y math o gymhwyster sydd arnoch chi ei eisiau yn dibynnu ar y math o waith y byddech chi’n hoffi cymryd rhan ynddo:
Cewch fwy o wybodaeth am gymwysterau Gwaith Chwarae yn Wrecsam ar ein tudalen Cymwysterau Gwaith Chwarae. Yn ogystal â hynny, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn hysbysebu pob cwrs hyfforddi gwaith chwarae sydd ar gael.
Lle da arall i gael gwybodaeth am Waith Chwarae a’r swyddi sydd ar gael yw gwefan Gwaith Chwarae Cymru: www.playworkwales.org.uk
Dyma’r sefydliadau sy’n cynnig cymwysterau gwaith chwarae yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rhowch glic ar y darparydd hyfforddiant y mae gennych chi ddiddordeb ynddo:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam – dyma le da arall i gael gwybodaeth am y cymwysterau gwaith chwarae a’r hyfforddiant cysylltiedig â chwarae sydd ar gael.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddi y mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn eu cynnig, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm. Cewch wybod mwy am y mathau eraill o hyfforddiant ar gyfer chwarae yr ydym yn eu cynnig hefyd ar ein tudalen Hyfforddiant Chwarae.
Yn ddiweddar, mae Gwaith Chwarae Cymru (y ganolfan genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae) wedi datblygu cyfres newydd o gymwysterau o’r enw Gweithredu Egwyddorion Gwaith Chwarae neu “P3”. Mae’r cwrs yn rhoi ystyriaeth i chwarae o safbwyntiau biolegol, cymdeithasegol a seicolegol. Maent yn trafod arwyddocâd chwarae plant yn esblygiad dyn a’r modd y gallai gweithwyr chwarae hwyluso’r broses o chwarae yn effeithiol. Mae’r maes llafur yn canolbwyntio ar y plentyn yn chwarae ac mae’n rhoi sylw i beth o’r tyndra sy’n digwydd rhwng dibenion yr oedolyn a greddf y plentyn i chwarae.
Mae’r cymwysterau wedi eu llunio i fod yn fodd i weithwyr dderbyn yr hyfforddiant yn gynyddol a chynyddrannol. Mae tri cham i bob lefel o’r cwrs: y dyfarniad, y dystysgrif a’r diploma ac mae pob cam yn adeiladu ar sail yr un o’i flaen. Mae’r cyrsiau yn cyfuno gwaith damcaniaethol dan arweiniad tiwtor, Gwaith Chwarae ymarferol, sylwadau ac amser i ystyried, a’r nod yw sicrhau y bydd gweithwyr chwarae yn gallu gweithredu’r hyn y maent wedi ei ddysgu cyn mynd ymlaen i gam nesaf y cymhwyster.
Mae achrediad cenedlaethol i’r cymwysterau P3 lefel dau ac maent yn cyflawni gofynion Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2008 (CSSIW) ar gyfer gweithwyr chwarae.
Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn cynnwys hyfforddwyr ac aseswyr P3 cymwysedig, sy’n fodd i ni gynnig y cymwysterau hyn yn weddol rad i weithwyr Wrecsam yn gyffredinol.
Mae Clybiau Plant Cymru yn cynnig cyrsiau rhagarweiniol ar gyfer chwarae a gwaith chwarae yn ogystal â chymwysterau CACHE lefel 2 a 3 mewn Gwaith Chwarae. Maent yn cynnig hyfforddiant hefyd ar gyfer materion cysylltiedig yn cynnwys amddiffyn plant, glanweithdra bwyd a chynllunio busnes. Mae’r hyfforddiant y gall Clybiau Plant Cymru ei gynnig yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael.
Cewch wybod mwy am gyrsiau Clybiau Plant Cymru yn www.clybiauplantcymru.org
Ar hyn o bryd mae Coleg Glannau Dyfrdwy yn cynnig cymwysterau NVQ Lefel 2 a 3 mewn Gwaith Chwarae. Cewch fwy o wybodaeth yn www.deeside.ac.uk Ar hyn o bryd nid yw Coleg Iâl yn cynnig cymwysterau gwaith chwarae penodol ond mae rhai o’u pynciau cysylltiedig yn cynnwys modiwlau gwaith chwarae. Mae’r NVQ Gofal Dysgu a Datblygiad Plant yn ymestyn dros yr ystod oedran 0-16 ac mae’n cynnwys unedau dewisol gyda chysylltiad uniongyrchol â Gwaith Chwarae. Cewch fwy o wybodaeth yn: www.yale-wrexham.co.uk
Prifysgol Glyndŵr sy’n cynnig yr unig Radd mewn Gwaith Chwarae yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r cwrs wedi ei ddatblygu ac mae arbenigwyr yn y maes, sefydliadau cenedlaethol a chyflogwyr yn ei adolygu’n barhaus, gan sicrhau bod y profiad o ddysgu a chynnwys y cwrs yn adlewyrchu’r polisi cyfredol ac ymchwil gyfoes, er mwyn i raddedigion fod â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n fodd i gyfrannu’n effeithiol i’r sector hwn sy’n datblygu mor gyflym.
Bydd y cwrs yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plentyn gyda sylw i asesu a datblygu’r amgylchedd chwarae, deall darpariaethau yn y gymuned, rheoli lleoliad chwarae a safbwyntiau cymdeithasegol a seicolegol a dylanwad y rhain ar ddamcaniaeth chwarae a gwaith chwarae ymarferol. Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n fodd i roi ystyriaeth i chwarae plant a’r ddarpariaeth o waith chwarae yn ogystal â dysgu o safbwyntiau rhyngwladol ynghylch darpariaeth ar gyfer chwarae plant. Byddwch hefyd yn cyflawni cyfnodau o ymarfer proffesiynol trwy gydol y cwrs.
Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglen hon yn gallu dilyn gyrfaoedd ym maes gwaith chwarae wyneb yn wyneb, datblygiad chwarae, hyfforddiant ac addysg gwaith chwarae, rheoli prosiectau chwarae yn ogystal â mewn proffesiynau cysylltiedig fel gwaith ieuenctid, gwaith cymunedol a gofal plant.
Cewch fwy o fanylion yn www.glyndwr.ac.uk
“Faint bynnag o brofiad sydd gennym, mae cyfle o hyd i ddysgu pethau newydd”
Chwarae Cymru, 2009.
Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi diwrnod llawn sy’n rhoi sylw i agweddau penodol ar chwarae a gwaith chwarae. Am fwy o fanylion, yn cynnwys costau, neu drafod datblygu sesiynau hyfforddi pwrpasol eraill ar gyfer chwarae, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Datblygu Chwarae Wrecsam.
Rhowch glic ar y sesiwn hyfforddi yr ydych yn ei dewis os gwelwch yn dda:
Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn ar gyfer chwarae a gwaith chwarae wedi ei lunio er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr chwilota ymysg eu hatgofion eu hunain o’r modd yr oeddent hwy eu hunain yn arfer chwarae ac ystyried y modd y gallai pethau fod yn wahanol i blant heddiw. Trwy gyfuno enghreifftiau damcaniaethol ac ymarferol, bydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ddatblygu eu gwybodaeth eu hunain o’r hyn yw chwarae a hel meddyliau am bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Bydd y cwrs yn rhoi sylw hefyd i’r modd y mae ein cymdeithas yn amddifadu plant yn gydol rhag chwarae a swyddogaeth gweithwyr chwarae o ran digolledu plant am golli cyfleoedd i chwarae sy’n digwydd yn naturiol.
– cydbwysedd rhwng risg a diogelwch wrth chwarae
Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylw i’r safbwynt mai Iechyd a Diogelwch sydd wrth wraidd y diwylliant ‘rhy ofalus’ sydd ohoni heddiw sy’n amddifadu plant rhag profiadau o chwarae anturus. Trwy drafod y camsyniadau niferus ynghylch gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer plant, chwarae plant a’r diwylliant beio, mae’r cwrs hwn yn ystyried pwysigrwydd risg wedi ei reoli’n iawn mewn chwarae plant. Mae’r cwrs yn galw am ac yn trafod manteision rheoli a chydbwyso’r peryglon gyda gwerth gwahanol gyfleoedd o ran chwarae a sut i ddatblygu gweithdrefnau asesu risgiau sy’n ategu hyn.
Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn cynnig hyfforddiant hefyd ar gyfer Amddiffyn Plant a Chymorth Cyntaf Sylfaenol, y mae’r ddau yn ddilys am gyfnod o ddim mwy na thair blynedd. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, yn Llyfrgell Wrecsam, hefyd yn cynnig hyfforddiant efo cymhorthdal i bobl sy’n gweithio efo plant.