Blaenoriaethau Cynnal a Chadw

Cyfarwyddyd Blaenoriaethu Ar Gyfer Ymdrin  Rhwystrau A Phroblemau Eraill Ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Blaenoriaeth 1

  • I'w archwilio o fewn: 24 awr
  • Sicrhau bod camau adferol wedi'u cymryd o fewn: 24 awr

(Mae’n bosibl y bydd angen gweithredu ar unwaith yn yr achosion mwyaf difrifol).

Adroddiadau o beryglon difrifol lle rhagwelir bod damwain yn bosibl ac yn debygol o fod yn ddifrifol, e.e. gorchuddion tyllau archwilio ar goll; camfeydd a phontydd peryglus ac ati; ffensys trydan ar lwybrau ceffyl; bagladau 20mm neu fwy neu dyllau yn y ffordd sy’n 20mm o ddyfnder neu fwy ar lwybrau wedi’u tario neu lwybrau pafin trefol.

Dylid gwneud pob ymdrech i gael gwared ar y broblem neu ei hamlygu pan eir i’r safle.

Blaenoriaeth 2

  • I'w archwilio o fewn: 3 diwrnod
  • Sicrhau bod camau adferol wedi'u cymryd o fewn: 3 diwrnod

Adroddiadau o beryglon nad ydynt yn debygol o achosi damweiniau fel ym 'Mlaenoriaeth 1' uchod, e.e. ffensys trydan ar lwybrau a ddefnyddir yn aml; teirw mewn caeau lle mae llwybrau’n eu croesi; bagladau llai na 20mm ar lwybrau wedi’u tario neu lwybrau pafin trefol; camfeydd a phontydd peryglus ac ati efallai.

Blaenoriaeth 3

  • I'w archwilio o fewn: 14 diwrnod
  • Targed amser i gyflawni'r gwaith: 28 diwrnod

Rhwystrau ar lwybrau a hyrwyddir gan CBSW, gan gynnwys cyfres ‘5 taith gerdded’ Dyffryn Ceiriog, neu mewn cymunedau sy’n cynnal prosiectau llwybrau cymeradwy mewn partneriaeth â’r Cyngor hwn; rhwystrau ar lwybrau trefol; peryglon posibl nad ydynt yn ddigon difrifol i’w cynnwys ym mlaenoriaethau 1 a 2 uchod.

Blaenoriaeth 4

  • I'w archwilio o fewn: 28 diwrnod
  • Targed amser i gyflawni'r gwaith: 3 mis, yn amodol ar argaeledd adnoddau

Rhwystrau ar lwybrau sydd wedi bod ar agor ers cyn cof neu sydd wedi’u hail-agor dros y blynyddoedd diwethaf (gan gynnwys llwybrau a hyrwyddir gan eraill heblaw am CBSW).

Blaenoriaeth 5

  • I'w archwilio o fewn: 3 mis
  • Targed amser i gyflawni'r gwaith: 6 mis, yn amodol ar argaeledd adnoddau

Rhwystrau ar lwybrau a) nad ydynt yn gynwysedig ym mlaenoriaethau 1 i 4 uchod; b) nad ydynt yn ymddangos fel rhan o arolwg ac c) sydd â phwysigrwydd strategol.  Tirfeddianwyr sy’n gwadu bod unrhyw HTC yn bodoli yno.

Blaenoriaeth 6

  • I'w archwilio o fewn: Cofnodi, archwilio os yw'r amser ar gael yn unig
  • Targed amser i gyflawni'r gwaith: Dim cyfyngiad amser, comisiynu gwaith adfer os yw'r adnoddau ar gael yn unig

Rhwystrau eraill.

Nodiadau

Gall nifer o ffactorau wrthwneud y rhestr uchod.  Gall paratoi llwybr Troedio Wrecsam; darparu cyswllt coll mewn llwybr cylchol grwp cerdded pan nad oes dewis arall addas ar gael; a datblygu llwybr hir, i gyd ddenu blaenoriaethau uwch.  O dro i dro gall problem ar  ffordd bengaead neu lwybr na ddefnyddir yn aml ddenu llai o flaenoriaeth.

yn ôl i'r brig