Y “Darkie” - llwybr hyfryd ar gyfer pob gallu yn Acrefair

Y “Darkie” - llwybr hyfryd ar gyfer pob gallu yn Acrefair

Yn dilyn llawer o waith caled gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint a Grŵp Treftadaeth Cefn, cwblhawyd y gwelliannau i’r llwybr 250 metr sy’n arwain at dwnnel y “Darkie”.

Adeiladwyd y “Darkie” sef y twnnel bach sy’n rhedeg o dan y rheilffordd segur er mwyn gadael i nant Tref y Nant barhau ar hyd ei chwrs ar ôl adeiladu’r rheilffordd yn 1860au.  Gan fod y rheilffordd hefyd yn mynd ar draws llwybr hynafol, penderfynwyd y gallai’r nant a’r llwybr rannu’r un twnnel.  Adeiladwyd y llwybr metel presennol uwchben y nant yn y 1980au.  Mae wedi’i lleoli ar waelod rhan o lwybr 45 Cefn, sy’n dechrau ar ochr y ffordd ger tafarn The Duke of Wellington yn Acrefair.

Mae’r llwybr wedi cael ei lefelu, ei ail-broffilio ac mae canllawiau wedi’u gosod.  Yn ogystal â’r gwaith hwn, gosodwyd grisiau a phlatfform golygfeydd yn y pen pellaf er mwyn galluogi pobl o bob gallu i edrych ar y twnnel yn ddiogel ac yn rhwydd.  Er mai dim ond taith yno-ac-yn-ôl ydyw i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â chymorth, mae’n gyfle gwych i grwydro ar hyd llwybr hyfryd sy’n mynd trwy goetir aeddfed yn uchel uwchben y nant.

Mae plant ysgolion lleol eisoes wedi bod yn y safle gyda’u hathrawon a staff addysgol Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint i gynnal arolygon hanesyddol ac ecolegol.  Mae hyn yn tynnu sylw’r plant at y ddaearyddiaeth ecolegol a hanesyddol gyfoethog ac amrywiol sydd ganddynt ar garreg eu drws.

Cafodd Groundwork gyllid i ariannu’r gwaith gan Merseywaste Holdings Ltd., Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ffn: 01978 292057
Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig