25.05.07
Ian ac Andy Jones o Footprint Conservation Ltd yn twtio'r gamfa ar lwybr cerdded 24 ger Pwll Brymbo.
Mae cymuned Brymbo wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros y 12 mis diwethaf i wella'r rhwydwaith llwybrau cerdded yn eu hardal.
Mae'r grŵp llwybrau cerdded cymunedol yn cynnwys Carolyn Griffiths, Steve Tilston, Derek Griffiths, Colin Davies, Dilwyn Griffiths, Garth Jukes, a Ken Monti ac maent i gyd wedi bod allan yn archwilio hawliau tramwy cyhoeddus Brymbo, Bwlchgwyn a Than-y-fron a chreu adroddiad am gyflwr y llwybrau. Lluniwyd rhestr o'r gwaith sydd angen ei wneud ac mae'r contractwyr bellach yn gorffen amryw o dasgau. Mae clwydi, camfeydd a phontydd newydd wedi'u codi ac mae sawl can metr o lystyfiant a oedd wedi gordyfu wedi'i glirio.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar sail 50/50. Mae Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint yn rheoli'r gwaith maes ac yn sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario'n ddoeth.
Nod y Cyngor yw agor yr holl lwybrau mewn cyflwr diogel a hyrwyddo defnydd ohonynt. Bydd Grŵp Llwybrau Cerdded Cymunedol Brymbo a gwirfoddolwyr eraill yn cerdded ar hyd y llwybrau o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn torri unrhyw lystyfiant blynyddol sy'n dechrau gorchuddio'r camfeydd. Byddant yn hysbysu'r Cyngor o unrhyw broblemau mwy ac mae'r Cyngor wedi addo rhoi blaenoriaeth i faterion tebyg cyn belled a bod adnoddau ar gael. Dylai hyn sicrhau bod y llwybrau'n aros ar agor ac mewn cyflwr da am sawl blwyddyn i ddod.
Gobeithir y daw teithiau cerdded o'r pentrefi a drefnir gan Crwydro Wrecsam ac a arweinir gan wirfoddolwyr yn nodwedd reolaidd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect neu'r teithiau cerdded gysylltu ag Alison Whitley ar 01978 297194 neu Groundwork ar 01978 757524.
Ffn: 01978 292057
Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk
Cyswllt i |
|
| Newyddion | |
| Hysbysiadau | |
| Hawliau Tramwy Cyhoeddus | |