Angen gwirfoddolwyr i helpu gwneud arolwg o lwybrau yn ardal Cymuned y Waun

03.06.10

Mewn partneriaeth â Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint a Chyngor Cymuned y Waun, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal prosiect gwella llwybrau yn ardal y Cyngor Cymuned. Bydd yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

I ddechrau byddwn yn atgyweirio’r llwybrau gan gynnwys camfeydd neu adwyau newydd, clirio llystyfiant a gwella arwynebau lle bo angen. Bydd cynnal a chadw blaenoriaethol yn cael ei wneud wedyn cyn belled â bod gwirfoddolwyr lleol yn gallu cerdded y llwybrau ddwywaith y flwyddyn, hysbysu unrhyw broblemau a thocio mân lystyfiant fel rhan o gynllun “mabwysiadu llwybr”.

Nid oes angen unrhyw brofiad o gynnal arolwg; y cyfan sy’n ofynnol yw eich bod yn hoffi cerdded! Gallwch wneud arolwg o ddim ond un llwybr neu gymaint ag a fynnwch. Neu efallai fod gennych hoff lwybr neu daith gylch yn yr ardal sydd angen ei gwella?

Os ydych eisiau cymryd rhan, mae Alison Whitley a Dave Smith yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn Neuadd y Plwyf, Ffordd Caergybi, Y Waun LL14 5NA ar ddydd Mercher 26ain Mai am 6.00pm.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar 01978 292057.

yn ôl i'r brig