Uwchraddio Llwybr Commonwood

23.02.11

Mae Adran Parciau Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Tref Gymunedol Holt, ac ailosod 20 camfa gyda giatiau cerdded sy’n cau eu hunain ar lwybr poblogaidd sy’n rhedeg drwy randiroedd. Nid oedd y llwybr yn hawdd iawn i’w ddefnyddio oherwydd niferoedd y camfeydd y byddai’n rhaid i gerddwyr eu croesi. Yn ddiweddar, roedd y camfeydd wedi dirywio yn eu cyflwr ac roedd angen datrys y sefyllfa. Gydag arian o gyllideb y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, cytunodd Adran Parciau Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam i gyflenwi’r giatiau ac Ymddiriedolaeth Tref Holt yn talu am eu gosod. Ychwanegodd Mr Brian Payne o’r Ymddiriedolaeth “Mae’r diweddaru yma i giatiau sy’n cau eu hunain yn hwyluso cwblhau taith gerdded sy’n gylch crwn o Bentref Holt, a llwybr llinol i Wrecsam i’r rhai mwy anturus, yn ychwanegu’n fawr at y rhestr o lwybrau cerdded sydd â mynediad iddynt yn ardal Holt”.

(Roedd Commonwood, y tu allan i Holt yn ardal i’r pentrefwyr bori eu hanifeiliaid a chasglu coed tân o ddechrau’r 14eg ganrif ymlaen. Ym 1851, roedd Commonwood wedi ei gau yn 65 rhandir o tua 2.7 acer).

Brian Payne (Ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Tref Holt a gweithiwr ar y llwybr), Gordon Emery (Contractiwr), Mike Carding (mabwysiadwr llwybr Commonwood), Bob Campbell (Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Tref Holt) ac Alison Whitley (Ceidwad Mynediad i adran Parciau Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn edrych ar y giatiau newydd yn Holt.

yn ôl i'r brig