01.04.11
Mae adran Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llunio cylchdaith newydd yn ardal y Garth a Phenycae.
Mae’r llwybr 4 milltir newydd (a elwir ‘Taith Gerdded Trefor a Garth’) yn ymgysylltu traphont ddŵr Pontcysyllte sydd newydd gael ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd, â’r ardal wledig oddi amgylch. Mae’r cerddwyr hynny sy’n dymuno dewis taith gerdded fyrrach yn gallu rhoi cynnig ar y llwybr 1.5 milltir sy’n cynnwys naw o gatiau mochyn sy’n hawdd eu defnyddio.
Ar gyfer y prosiect hwn fe gafwyd arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cefnogi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dave Smith yw’r rhodiwr Mynediad a Hawliau Tramwy ac meddai, “Rwyf yn hynod ddiolchgar i bob un o’r tirfeddianwyr am eu cydweithrediad, ac hefyd i un o’r cerddwyr lleol, Geoff Pettitt, a gysylltodd â mi er mwyn sôn wrthyf am y syniad a oedd ganddo ar gyfer y llwybr newydd hwn.”
Map Taith Gerdded Trefor a Garth
Map Taith Gerdded Trefor a Garth - Fersiwn PDF 490Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Cyswllt i |
|
| Newyddion | |
| Hysbysiadau | |
| Hawliau Tramwy Cyhoeddus | |