Ychydig wythnosau'n ôl, cysylltodd Keith Chetwood, cerddwr a oedd yn cynllunio taith gerdded o Land’s End i John O’Groats, ag Is-adran Hawliau Tramwy Wrecsam. Roedd Keith wedi dewis dod i fyny trwy Gymru ar Lwybr Clawdd Offa ac roedd angen llwybr traws-gwlad arno i gyrraedd Llwybr y Penwynion. Roedd Llwybr Maelor yn Wrecsam yn ffurfio rhan o'r ateb.
Nid llawer o bobl sy'n mynd trwy Wrecsam ar y siwrnai hon o un pen i'r wlad i'r llall felly aeth Dave Smith, Swyddog Mynediad a Gwella Wrecsam, i gwrdd ag ef yn Owrtyn i gerdded rhan o'r llwybr a'i holi am y siwrnai hon.
Dywedodd Keith,
"Rwyf wedi bod yn meddwl gwneud y daith hon ers 20 mlynedd. Ymddeolais 10 mlynedd yn ôl ac rwyf wedi bod yn cerdded mynyddoedd yr Himalayas, Gwlad yr Iâ ac Ethiopia. Mae'r daith hon oddeutu 850 o filltiroedd.
Rwyf wedi cwblhau traean ohoni bellach a gan i mi ddechrau bron i fis yn ôl, rwy'n tybio bod gennyf ddeufis arall i fynd.
Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl ddiddorol ar hyd y daith a'r rhai mwyaf diddorol oedd pâr yn Nyfnaint sydd wedi cerdded o amgylch arfordir Prydain i gyd!"
Mae Keith, sy'n byw yn Melkridge, Northumberland, yn codi arian at elusennau sglerosis ymledol ac epilepsi, ac mae eisoes wedi codi £300 trwy gwrdd â phobl ar hyd y ffordd.
Hyd yma mae wedi colli 20 pwys ond mae'n cyfaddef ei bod yn siwrnai hir i fynd arni er mwyn colli pwysau yn unig!
“Rwyf ar fy ail bâr o esgidiau ond dim oherwydd i mi ddechrau ag esgidiau cymharol newydd a oedd yn rhy anghyfforddus. Gofynnais i fy ngwraig anfon fy hen bâr cyfforddus ataf trwy ddosbarthiad arbennig ac fe'i casglais mewn swyddfa bost ar hyd y ffordd.
Ar ôl i mi orffen, byddaf yn cymryd seibiant haeddiannol. Yn bendant, ni fyddaf yn cerdded yn ôl!"
Gwahoddir unrhyw un sydd am gefnogi Keith i ymweld â gwefannau'r elusennau y mae'n eu cefnogi sef www.mssociety.org.uk (cysylltiadau allanol) a www.epilepsynse.org.uk (cysylltiadau allanol).
Gwybodaeth mwy am Lwybr Maelor
Cyswllt i |
|
| Cerdded | |
| Newyddion | |
| Hysbysiadau | |
| Hawliau Tramwy Cyhoeddus | |