Pont Gerdded Newydd yn Erbistog

01.08.09

Mae adran Parciau Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod pont gerdded newydd ar lwybr poblogaidd ar lan yr afon gerllaw Erbistog.

Mae’r bont ar gyfeirnod grid SJ343,414 rhwng y Fferm Isaf a Phlas Manley yn rhan o lwybr Clawdd Watt hefyd. Mae’r darn hwn o’r llwybr sy’n rhedeg ar hyd yr Afon Dyfrdwy o Erbistog i’r Graig wedi elwa hefyd o gael gatiau mochyn newydd hawdd eu defnyddio yn lle’r camfeydd.

Daw’r arian ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

yn ôl i'r brig