01.09.09
Mae Adran Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi draenio ac ailwynebu darn gwlyb iawn ar lwybr cyhoeddus poblogaidd rhwng Ffordd Rhiwabon ac Afon Eitha.
Mae’r llwybr yn ffurfio rhan o daith gerdded Coed y Gardden a Bryngeyrydd, a gallwch lawrlwytho map o’r llwybr o wefan teithiau cerdded CBSW.
Daeth cymorth ariannol ar gyfer y prosiect oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru i ategu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam.
Meddai Dave Smith, Swyddog Mynediad a Gwella, “Dylai gwelliannau i’r llwybr hwn helpu pobl leol gadw’n heini a mwynhau mwy fyth ar yr ardal arbennig hon.”
Cyswllt i |
|
| Newyddion | |
| Hawliau Tramwy Cyhoeddus | |