Mae Prosiect Llwybrau Troed Marchwiel yn symud ymlaen ar garlam. Mae pob un o'r llwybrau troed yn y gymuned yn awr yn rhydd o rwystrau. Mae tîm Hawliau Tramwy'r cyngor newydd orffen adnewyddu sawl giât a chamfa, a thocio gordyfiant gyda chymorth Grwp Amgylcheddol Marchwiel, fel y gellir yn awr defnyddio sawl llwybr troed a oedd yn anoddeu defnyddio cynt. Mae'r ardal lle y gwnaed y gwaith yn ymestyn o Barc Erddig a Sonlli i orllewin Cross Lanes i'r dwyrain; o Melin y Brenin yn y gogledd i Gyfelia a Glan y Ceiliog yn y de.
Mae eto rhywfaint o waith gosod arwyddion ac arwyddbyst i'w wneud ond gellir dilyn pob llwybr gyda map a gellir eu cerdded heb fap.
Mae Grwp Amgylcheddol Marchwiel yn aml yn arwain teithiau cerdded byr yn yr ardal, fel rheol ar nos Lun yn yr haf a theithiau cerdded ychydig yn hirach unwaith y mis ar ddydd Sadwrn.
Ewch i'w gwefan www.marchwiel-env-group.ik.com neu cysylltwch â Graham Flathers ar 01978 359655 neu Jude Greenwood ar 01978 311256.
Cyswllt i |
|
| Cerdded | |
| Newyddion | |
| Hysbysiadau | |
| Hawliau Tramwy Cyhoeddus | |