Merlotwyr Yn Croesawu Pont Newydd Ar Y Llwybr Ceffylau

07.09.11

Yn ddiweddar mae Is-adran Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod pont 9.5m ar y llwybr ceffylau dros Afon Clywedog ar y llwybr ceffylau poblogaidd ger Plas y Mwynglawdd.

Mae gosod y bont yn rhoi llwybr mwy diogel i’r merlotwyr o Goedpoeth i ffordd Mynydd y Mwynglawdd, gan osgoi darn o’r B5426 sy’n teithio drwy’r Mwynglawdd.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru mewn cefnogaeth i Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam.

Alison Whitley (Ceidwad Mynediad Is-adran Parciau, Chefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) Tim Stratton (Cymdeithas Llwybrau Ceffylau Gogledd Ddwyrain Cymru) Christine Basey (Cymdeithas Llwybrau Ceffylau Gogledd Ddwyrain Cymru) yn rhoi cynnig ar y bont newydd yn y Mwynglawdd.

yn ôl i'r brig