25.01.07
Ken Farrell ger hoff lecyn ar un o deithiau cerdded Owrtyn
Maen bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi tair taith gerdded newydd ar ei wefan boblogaidd: www.wrecsam.gov.uk/cerdded.
Rhai blynyddoedd yn ôl, cynhyrchodd yr awdur lleol Raymond Roberts lyfryn o’r enw “The Overton Six” fel rhan o’i gyfres Clwydian Walks. Yna, cynhyrchodd yr awdur lleol Gordon Emery daith o Owrtyn yn ei lyfr "Family Walks in the North Wales Borderlands". Ym marn pobl Owrtyn, dyma oedd “Taith Gerdded 7”.
Pan gafodd Ken Farrell trigolyn o Owrtyn gyfle i weithio gyda Groundwork Wrecsam a chynhyrchu tri chanllaw arall, roedd yn gwneud synnwyr iddynt alw’r rhain yn Deithiau 8, 9 a 10. Cyhoeddwyd y rhain rai blynyddoedd yn ôl fel taflenni A4 wedi eu plygu.
 chymorth pellach gan Ken, mae Tîm Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam, wedi eu diweddaru ar gyfer y wefan. Er bod y teithiau cerdded yr un fath, paratowyd mapiau lliw newydd a rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd gyflwyno lluniau digidol a dynnwyd ar y teithiau cerdded. Mae rhai lluniau yn yr oriel eisoes, y rhan fwyaf a dynnwyd gan Ken.
Dywedodd llefarydd y Cyngor: “Rydyn ni wedi penderfynu hepgor yr ‘8, 9 a 10’, rhag ofn i ni gael gormod o ymholiadau am y saith arall. Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â Mr Farrell i ddod â’r teithiau cerdded hyn i gynulleidfa ehangach. Yn ffodus, mae Ken a’i gydweithwyr yn Owrtyn wedi helpu i ofalu am y llwybrau troed cystal nad oedd angen i ni wneud llawer iawn.”
Dyweodd Ken Farrell “Cwmpasir Owrtyn gan rywdwaith 40 milltir o lwybrau troed a cheffyll cysylltiedig, pob un yn hawdd i’w cyrraedd o’r pentref lle mae parcio am ddim i ymwelwyr. Mae gwasanaeth bws rheolaidd i’r pentref o Wrecsam a’r Eglwys Wen. Mae’r holl lwybrau’n glir ac wedi eu harwyddo’n llawn ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth eang o dirweddau deniadol, glannau afonydd, coetiroedd a phorfeydd, llawer â golygfeydd braf. Tan yn ddiweddar, roedd rhwystrau ar rai llwybrau ond diolch i ymdrechion gwych Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a hen Gyngor Sir Clwyd mae’r cwbl yn agored i bawb eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn."
Gallwch lawrlwytho’r wybodaeth o www.wrecsam.gov.uk/teithiau cerdded.Ffn: 01978 292057
Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk
Cyswllt i |
|
| Newyddion | |
| Hysbysiadau | |
| Dychwelyd i'r mynegai | |