Llwybr Troed Newydd i Lannerch Bana

Llwybr Troed Newydd i Lannerch Bana

Mae Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi codi pont droed newydd ar draws Nant Emral rhwng Halghton a Llannerch Banna.

Mae’r bont sy’n cysylltu llwybr Halghton 6 a Llannerch Bana 20 ar gyfeirnod grid SJ414424 yn cysylltu ardal Lôn Halghtonhall â Lôn y Celyn ac yn ei gwneud hi’n bosibl i bobl Llannerch Bana roi cynnig ar daith gerdded gylchol gan ddefnyddio rhan o Lwybr Maelor.

Pont o gynllun newydd naw metr o hyd ydyw gyda deciau dur, canllawiau a giatiau, sy’n cyfuno ysgafnder â chryfder strwythurol.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ategu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam.

yn ôl i'r brig