Gwelliant i Lwybr Ceffylau Lôn y Graig yn Halghton

1 Chwefror 2009

Mae Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod dwy bont newydd ar lwybr cyhoeddus poblogaidd ger Horseman’s Green.

Mae’r llwybr ceffylau sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn agos at ganolfan ferlota a stablau hur ac ynghyd â’r lonydd bach tawel, mae’n darparu cylch i ferlotwyr.

Mae’r gwelliant hefyd yn fanteisiol i gerddwyr sy’n cerdded ar y llwybrau cylch o Lannerch Banna neu Tallarn Green.

Mae’r pontydd metal hyn sy’n 7 metr o led ac yn 5 metr o hyd yn gyfeillgar i geffylau gyda chanllawiau uchel ac arwynebedd wrth slip.  Maent yn disodli’r hen strwythurau pren na ellir eu defnyddio bellach.

Dywedodd y Ceidwad Hawliau Tramwy, Sion Roberts, “Rydym wedi gwella’r arwyneb o’r llwybr ceffylau ddwy flynedd yn ôl ac mae’n dda gallu gorffen y gwaith gyda’r pontydd hyn.”

Ariannwyd prosiect hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gefnogaeth i’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

yn ôl i'r brig