

Cafodd ‘Llwybrau Marchogaeth Wrecsam’ eu datblygu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW). Cawsant eu cyllido drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru. Cafodd y llwybrau eu dylunio gyda chymorth North East Wales Bridleways (NEWB).
Mae arwyddion clir ar bob llwybr – mae’r arwyddion trawiadol yn dangos marchogwr yn gwisgo siaced hawdd ei gweld ar gefn ceffyl. Hefyd, ar bob llwybr, ceir bwrdd dehongli sy’n rhoi rhagor o wybodaeth. Mae’r rhain wedi cael eu lleoli, ynghyd â phostyn clymu, mewn mannau lle tybir ei bod yn saff a hwylus i chi a’ch ceffyl stopio.
Mae meysydd parcio cyhoeddus wedi cael eu nodi ar y mapiau. Os oes angen lle parcio i gerbyd ansafonol arnoch, h.y. trelar ceffylau, argymhellir yn gryf eich bod yn cysylltu â’r awdurdodau perthnasol i ganfod a yw’r meysydd parcio’n addas i’ch cerbyd.