Gwelliannau I Lwybrau Cyhoeddus Yn Worthenbury

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

25 Tachwedd 2009

Gwelliannau I Lwybrau Cyhoeddus Yn Worthenbury

Mae adran Gwasanaeth Cefn Gwlad, Hawliau Tramwy a Pharciau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod dwy bont droed newydd ar lwybr cyhoeddus poblogaidd rhwng pentrefi Worthenbury a Shocklach.

Mae’r llwybr yn ffurfio rhan o lwybr hir newydd sydd yn dilyn yr afon Ddyfrdwy o’i tharddiad ger y Bala hyd at aber yr afon.

Mae’r pontydd sydd yn mesur 12 a 16 medr o hyd wedi eu gwneud allan o bren, gyda thrawstiau dur yn ogystal a arwyneb sy’n atal llithro. Maen’t yn cymryd lle hen bontydd cerrig a oedd mewn cyflwr gwael.

Cafwyd peth o’r arian ar gyfer y prosiect gan y Cynulliad sydd yn cefnogi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam.

Alison Whitley a Charlotte Flett o adran Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam yn defnyddio un or pontydd ger Worthenbury.

yn ôl i'r brig