Deucanmlwyddiant Hapus!
Mae dathliadau i nodi deucanmlwyddiant ers cwblhau traphont ddwr Pontcysyllte yn cael eu cynllunio trwy gydol 2005. Mae digwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr gan gynnwys nifer o weithgareddau ym Mharc Gwledig Ty Mawr, cwmni theatr Mikron yng Nghanolfan Gymunedol Trefor ym mis Gorffennaf a "Llwncdestun i Thomas Telford" gyda gyrfa ceffyl a cherbyd ym mis Awst.
Daw’r dathliadau i ben a digwyddiad hynod ar 26ain Tachwedd sef y dyddiad yr agorwyd y draphont ddwr yn swyddogol 200 mlynedd yn ôl. Bydd rhywbeth ar gyfer y teulu cyfan gan gynnwys ail-berfformiad o ryfel Napoleon, band pres a chor, ymweliadau ar "Millie" y cwch ar gyfer y plant iau, ac i orffen cynhelir arddangosfa dân gwyllt fawreddog.
Mae'r adeiledd yn cynrychioli campwaith bensaerniol Sioraidd a grewyd gan Thomas Telford. Gelwir traphont ddŵr Pontcysyllte yn "ddyfrffordd yn yr awyr". Mae'n cario camlas Llangollen 126 troedfedd uwchben yr afon Ddyfrdwy ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ewch ar daith gofiadwy dros y draphont ddŵr naill ai ar droed neu ar gwch ac edrychwch i lawr ar y gofod oddi tanoch. Hollol anhygoel!
Ffeithiau a ffigyrau'r draphont ddwr
-
Ystyr Pontcysyllte yw "y bont sy'n cysylltu". Mewn gwirionedd, creodd gyswllt mordwyol rhwng Cymru a Lloegr trwy gysylltu afonydd Hafren, y Ddyfrdwy a'r Ferswy.
-
Mae'r cafn haearn bwrw sy'n dal dwr y gamlas yn 11 troedfedd o led, 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder ac yn 1,007 troedfedd o hyd ar ei phwynt uchaf.
-
Mae gan y draphont 19 o fwau ac mae bob un rhychwantu 45 troedfedd o hyd ac mae'r pileri yn 116 troedfedd o uchder.
-
Er mwyn cadw'r draphont ddŵr mor ysgafn a phosibl, mae'r colofnau carreg main yn wag mewn rhannau ac yn meinhau ar eu copaon
-
Defnyddiwyd gwaed ych, calch a dwr i wneud y mortar.
-
Mae'r draphont ddŵr yn dal 1.5 miliwm litr o ddŵr ac yn cymryd 2 awr i ddraenio.
-
Gosodwyd y garreg gyntaf ym mis Gorffennaf 1795 ac fe'i cwblhawyd yn 1805
-
Ar ei chanol mae'n cyrraedd uchder o 126 troedfedd o wely'r afon at y gwaith haearn.
-
Dyma'r draphont ddwr fwyaf ym Mhrydain
-
Costiodd y bont £45,000 i’w hadeiladu yn 1805
Taflen Traphont Ddwr Pontcysyllte
Llawrlwytho y taflen mewn fformat PDF:
Traphont Ddwr Pontcysyllte - Ferswin PDF 3.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|