Mae Hwyl Hurt y Pasg wedi cyrraedd!
A fydd eich plant yn diflasu'n hawdd dros wyliau'r Pasg? Peidiwch â phoeni, unwaith eto mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llunio canllaw defnyddiol am weithgareddau ar gyfer plant yn ystod gwyliau'r Pasg.
Mae Hwyl Hurt y Pasg yn rhoi manylion llu o weithgareddau sydd ar gael i blant o bob oedran - ac mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim! Mae digonedd o ddewis ar gael - nofio, sesiynau tennis, celf a chrefft, gwersylloedd pêl-droed, clybiau cyfrifiadurol a llawer mwy!
Mae copïau o'r llyfryn ar gael nawr ym mhob un llyfrgell, canolfan hamdden a derbynfa yn y sir neu cliciwch yma i lawrlwytho copi.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â 01978 297488.
Gweithdrefnau Neilltuo
Cysylltwch â lleoliad y digwyddiad am ragor o wybodaeth
am yr holl weithgareddau, oni nodir yn wahanol.
Hwyl Hurt y Pasg 2008
Mae'r taflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Hwyl Hurt y Pasg 2008 - fformat PDF 1.9Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Os hoffech gael y daflen hon ar ffurf wahanol, ffoniwch
01978 297488.
|