Wrecsam Go Iawn – Canllaw i Ymwelwyr

Rydym yn hoff iawn o barti yn Wrecsam. Efallai bod hyn oherwydd i ni gael cymaint i’w ddathlu yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Cael ein prifysgol ein hunain, er enghraifft, yr un ddiweddaraf yng Nghymru. Neu gynyddu 25% ar y gofod adwerthu yng nghanol tref Wrecsam gyda chanolfan siopa wobrwyol Dôl Eryrod – 306,000 troedfedd sgwâr ohoni.

Ond efallai mai’r newyddion mwyaf trawiadol oedd clywed bod UNESCO wedi dynodi Traphont Ddwr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae hynny’n golygu bod y campwaith gan Thomas Telford sydd yn ein milltir sgwâr ni, yn gyfwerth â’r Pyramidiau, Machu Picchu neu’r Acropolis.

Heb os nac oni bai mae hynny’n rhywbeth gwerth ei ddathlu ac mae’r adeg yn un berffaith hefyd o gofio y bydd Wrecsam yn cynnal un o’r gwyliau celfyddydol mwyaf nodedig yn y byd, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2011.

O 30 Gorffennaf tan 6 Awst bydd hyd at 160,000 o bobl yn mynd i’r pafiliwn pinc enwog a’r Maes oddi amgylch iddo. Mae’r wyl deithiol ysblennydd hon yn dychwelyd i Wrecsam ac rydym ar ben ein digon, yn gymaint felly fel ein bod wedi trefnu blwyddyn a fydd yn llawn digwyddiadau i gyd-fynd â’r wyl. Ei henw fydd Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011, ac rydym wedi neilltuo rhan ganol y llyfryn hwn yn unswydd ar ei chyfer.

Rydym eisoes yn denu oddeutu 1.4 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ond mae gennym wastad ddigon o le i groesawu rhagor ohonynt i’n cornel fach glyd yng Ngororau Gogledd Cymru. A gall pawb deithio’n hwylus yma, mewn awyren, trên neu gar.

Rydym yn dref ac yn sir hefyd, sy’n ferw o brysurdeb ond sy’n hafan wledig tawel ar yr un pryd. Felly mae gennym rywbeth at ddant pawb.

Beth am ichi ddod draw i weld Wrecsam, y Wrecsam go iawn sy’n llawn bwrlwm ar eich cyfer, ni waeth a ydych chi’n byw, gweithio neu’n hamddena yma.

Mae copïau o’r llyfryn ar gael yn y canolfannau croeso lleol, lletyau ac atyniadau, ynghyd â llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon – lawrlwythwch neu casglwch eich copi am ddim heddiw!

I archebu copi, cwblhewch y ffurflen gais neu cysylltwch â Chanolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015 neu tic@wrexham.gov.uk. Os ydych yn byw yn Wrecsam, beth am alw heibio i’r Ganolfan Groeso a chasglu copi? Mae’r Ganolfan Groeso ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am tan 5pm.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292489.

Canllaw i Ymwelwyr ‘Wrecsam Go Iawn’

Lawrlwythwch y llyfryn yn y fformat canlynol:

Canllaw i Ymwelwyr ‘Wrecsam Go Iawn’ – Fersiwn PDF 9Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig