Ymunwch â chwyldro 'Pur'!

Llun o logo 'Pur'Plas Madoc i ymuno â'r Chwyldro 'Pur'!

Ar hyn o bryd mae'r ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn cael ei hadnewyddu i gyd-fynd â'r Byd Dwr a'r Waun.

Mae'r gampfa'n cael ei hadnewyddu'n llwyr a bydd yn cynnwys y dechnoleg ymarfer corff diweddaraf gan gynnwys yr ystod Excite modern gan Technogym. Bydd y cyfleusterau wedi'u tymheru'n llawn a bydd staff cymwysedig yn cynnig cyngor am ddim ar faethiad, rheoli pwysau, ymarfer corff wrth gyfeirio, adfer y galon ac ymgynghoriad un i un.

Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, bydd y gampfa'n ymgorffori'r enw newydd ym maes Iechyd a Ffitrwydd sef 'Pur'. Yn ystod y flwyddyn, bydd ystafelloedd newydd eraill y Cyngor yn cael eu hadnewyddu a'u henwi dan y faner newydd 'Pur'.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan, "Rydym yn ymddiheuro'n fawr am unrhyw anhwylustod a achoswyd gan yr oedi anfwriadol ac annisgwyl i'r gwaith adnewyddu ond gobeithiwn y byddwch yn hapus gyda'r cynllun cyffredinol."

Am wybodaeth bellach gofynnwch am Steve Catherall ein Swyddog Iechyd a Ffitrwydd drwy ffonio 01978 821600.

yn ôl i'r brig