Gwersi Nofio i Oedolion – Hylif Pur

Sut bersonoliaeth sydd gennych ar lan y pwll?

Hylif Pur yw’r rhaglen o wersi nofio newydd I oedolion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda sylw penodol ar y nofiwr! Prun ai ydych chi’n teimlo’n hapusach gyda fflôt neu ffliperi, mae rhywbeth ar gael i bob gallu.

Ydych chi’n trochwr blaen troed?

Ydych chi erioed wedi cael cyfle i ddysgu nofio neu wedi colli’ch hyder yn y dwr? Dyma’r dosbarth i chi! Bydd dysgu gyda ‘dowcwyr bodiau’ eraill mewn dwr bas yn cynyddu eich hyder fel y gallwch ddysgu nofio hebgymorth.

 

Ydych chi’n Beisiwr?

I bobl sy’n gallu nofio, heb gymorth yn y pwll, ond sydd angen gloywi rhai o’r technegau a sgiliau nofio hanfodol. Ymunwch â’r ‘rhydwyr’ac ailddarganfod eich awydd wrth dasgu.

 

Ydych Chi’n Torpido?

Rydych chi’n mynd i nofio yn y pwll yn hyderus yn aml, ond dydych chi dim yn teimlo eich bod yn gwneud cymaint o gynnydd ag yr hoffech. Bydd cael hyfforddwr cymwys wrth law yn helpu i droi eich nofio hamddenol yn ymarfer corff yn y dwr.

Cadwch olwg am fwy o wybodaeth cyn bo hir neu cysylltwch gyda’ch Canolfan Hamdden a Gweithgareddau lleol:
Y Waun 01691 778666 | Gwyn Evans 01978 269540 | Plas Madoc 01978 821600 |Byd Dwr Wrecsam 01978 297300

yn ôl i'r brig