Yn
enwog am ei gyfleusterau trac a maes, mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway wedi denu
rhai o athletwyr gorau’r byd, gan gynnwys athletwyr Cymru ei hun,
Colin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomas a Christian Malcolm.
Mae’r Stadiwm yn lleoliad delfrydol ar gyfer diwrnod chwaraeon ysgol, pencampwriaeth a hyd yn oed diwrnod hwyl lleol neu wyl. Gall y staff ddarparu cefnogaeth a chyngor proffesiynol i sicrhau diwrnod llwyddiannus.
Yn ogystal â bod yn lleoliad athletau rhanbarthol pwysig, mae Queensway yn lleoliad cymunedol pwysig, sy’n darparu ystod gwych o weithgareddau a digwyddiadau hamdden trwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth at ddant pawb o 6 i 60+ oed!
![]()
Stiwdio ffitrwydd fodern sydd ag aerdymheru. Mae’n cynnwys cyfarpar cardiofasgwlaidd ac ystod o gyfarpar gwrthiant. Mae’r holl gyfarpar wedi’i gynllunio i fod yn addas i ddechreuwyr a’r bobl hynod heini a brwdfrydig.
![]()
Mae dau gwrt sbonced/pêl-raced yn darparu amgylchedd perffaith i chwaraewyr raced. Mae’r cyfleusterau hyn yn boblogaidd, felly fe’ch cynghorir i neilltuo lle ymlaen llaw i sicrhau eich sesiwn 40 munud.
![]()
Cyfleuster rhanbarthol a chymunedol pwysig, sy’n darparu’r profiad gymnasteg mwyaf cyflawn yn Wrecsam. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella sgiliau cydlyniant, hyblygrwydd a nerth eich plentyn, nid oes angen edrych ddim pellach… goruchwylir a hyfforddir bob dosbarth gymnasteg o oed cyn ysgol i fyny gan staff wedi’u hyfforddi.
![]()
Yn ogystal â bod yn lleoliad i ddigwyddiadau unigol, y Stadiwm yw cartref Clwb Athletau Wrecsam, sy’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi/cyflyru i bobl o bob oed o 8 oed+.
Er bod sesiynau ar gael trwy gydol yr wythnos, bydd y Clwb yn cael defnydd cyfyngedig o’r trac/maes ar nos Fawrth, yn dechrau am 6pm i blant 8-12 oed ac am 7.00pm i blant 13 oed – oedolion. Felly os oes gennych ddiddordeb ac yn dyheu am gael bod yn Jonathan Edwards neu’n Paula Radcliffe y dyfodol, neu’n syml, os oes gennych ddiddordeb mewn cael ychydig o gyngor i gychwyn rhaglen ffitrwydd newydd, galwch heibio ar nos Fawrth i gael sgwrs ag un o hyfforddwyr Clwb Athletau Wrecsam.
![]()
Dau faes astroturf gyda llifoleuadau (pob maes 34m x 26m) sy’n cynnig cyfleoedd hyffroddi/gêm i glybiau neu grwpiau, i brofi eu sgiliau unigol/tîm ar faes bob tywydd. Mae’r cyfleusterau hyn yn hynod o boblogaidd, felly argymhellir neilltuo lle ymlaen llaw. Mae neilltuo maes mewn bloc am ychydig wythnosau’n sicrhau cyfnod rheolaidd bob wythnos. Mae pob sesiwn yn para am 45 munud.
![]()
Gall ein therapydd chwaraeon hyfforddedig preswyl eich cynorthwyo â thriniaeth anaf neu leddfu straen a thensiwn gyda thyliniad chwaraeon ar gyfer y corff cyfan neu ran isaf/uchaf y corff.
![]()
Campfa gyntaf Wrecsam i blant!
Datblygwyd Egni Pur i ddarparu gweithgaredd unigryw i bobl ifanc, nid yn unig i hyrwyddo ffordd o fyw fwy heini ac iach, ond hefyd i’w hannog i gymryd rhan mewn gweithgaredd y gellir ei fwynhau trwy gydol eu bywydau.
Gall plant 8-15 oed fwynhau defnyddio offer ffitrwydd gan gynnwys ystod unigryw o beiriannau gwrthiant arbenigol yn ein campfa gyfeillgar a chynnes, lle gallant fwynhau ymarfer corff a gwrando ar y caneuon diweddaraf ar deledu digidol.
Gan fod pob plentyn yn wahanol, gall ein Hyfforddwyr Ffitrwydd cymwysedig lunio rhaglenni personol i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn mwynhau ei hunan wrth weithio tuag at wella ei ffitrwydd.
For class times and all other enquiries please contact Queensway Leisure & Activity Centre.
A yw’r sesiynau hynny’n anghyfleus? Beth am wneud rhywfaint o ymarfer corff gyda’ch plant?
Mae angen i chi gwblhau sesiwn gyflwyno cyn i chi ddefnyddio Egni Pur, felly ffoniwch y dderbynfa i drefnu eich cyflwyniad ar (01978) 355826.
Bob yn Ddau! Perffaith ar gyfer gwyliau ysgol!
Mae Bob yn Ddau yn gynllun newydd ac unigryw i rieni a gwarcheidwaid (dros 18 oed) i wneud ymarfer corff gyda’u teuluoedd. Dewiswch amser sy’n gyfleus i chi a’r plant (8-15 oed), a mwynhewch bopeth sydd gan y gampfa i’w gynnig!
Mae Egni Pur hefyd ar gael gyda’r nos yn ystod yr wythnos (contact Queensway for gym times of availability) a thrwy’r dydd ar benwythnosau, felly mae’n hawdd cynnwys ymarfer corff yn eich bywyd prysur. Byddwch yn derbyn sesiwn gyflwyno a gall staff hyfforddedig lunio rhaglenni i fodloni eich anghenion am £2.30!
Mae angen i chi gwblhau sesiwn gyflwyno cyn i chi ddefnyddio Egni Pur, felly ffoniwch y dderbynfa i drefnu eich cyflwyniad ar (01978) 355826.
Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr
Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr - fformat Word 88Kb ![]()
Rheoliadau Cyffredinol - perthnasol i holl ddefnyddwyr - fformat PDF 60Kb ![]()
Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw
Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw - fformat Word 92Kb ![]()
Amodau Llogi - perthnasol ar gyfer unrhyw logi ymlaen llaw - fformat PDF 23Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |