Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon

Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon yn gyfleuster ardderchog a fwriadwyd i fod yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygu criced. Ond darperir amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon eraill hefyd, er mwyn annog plant a'r gymuned i gymryd rhan.

Ydych chi'n chwilio am rywle i hyfforddi neu chwarae?

Dosbarth Erobeg Cam

O ganlyniad i oriau agor yr haf, mae’r dosbarth Erobeg Cam ar nos Fercher wedi’i ganslo o ddydd Mercher 20 Ebrill 2011.

I gael gwybodaeth am ddosbarthiadau eraill, ymgynghorwch ag aelod o staff. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Y Canolfan Hamdden a Gweithgareddau

Llun o ystafell chwaraeon amlddefnyddCeir neuadd chwaraeon â phedwar cwrt badminton, ystafell erobeg / seminar ac ystafell chwaraeon amlddefnydd â llifoleuadau, ac maent i gyd ar gael i'w llogi. Lleolir y cyfleuster y tu ôl i Ysgol Uwchradd Rhiwabon.

Man Gemau Amlddefnydd dan Lifoleuadau

Yn Galw Holl Glybiau Pêl-Droed!

Mae'r man gemau amlddefnydd dan lifoleuadau yn Adeilad Chwaraeon Rhiwabon ar gael i chi ei hurio!

Gallwch ei hurio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 5.00pm a 10.00pm a rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sul.

Am wybodaeth bellach ar sut i neilltuo'r cyfleuster, ffoniwch Adeilad Chwaraeon Rhiwabon ar 01978 822978.

Costau Cyffredinol y Cyfleusterau

Hamdden Pur

Lleoliad Gweithgaredd Pris Pris â cherdyn hamdden
Rhiwabon Prif Neuadd Oedolion £31.30 £26.10
Plant £16.40 £13.65
Rhiwabon Badminton Oedolion £7.90 £6.60
Plant £4.10 £3.40
Rhiwabon Criced Lôn – Oedolion £7.90 £6.60
Lôn – Plant £4.10 £3.40
Rhiwabon MUGA Cwrt Llawn – Oedolion £36.80 £30.65
Cwrt Hanner – Oedolion £18.39 £15.25
Cwrt Llawn – Plant £19.00 £15.85
Cwrt Hanner – Plant £11.75 £9.80
Rhiwabon Dosbarthiadau Ffitrwydd Stepio £4.70 £3.90
Ioga Egnïol £4.70 £3.90
Rhiwabon Pump-Bob-Ochr Neilltuo Cyfnod - £30.00
Ystafell Aerobeg Neilltuo Cyfnod £16.40 £13.65
Cae Pob Tywydd Ysgol y Grango – am sesiwn 45 munud Cae Llawn – Oedolion £88.45 £73.70
Cae Llawn – Plant £56.65 £47.20
Hanner y Cae – Oedolion £35.80 £29.85
Hanner y Cae – Plant £23.90 £19.90

Mae cardiau Bonws 5 ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc neu'r Waun.

  • Dalwyr Cerdyn Hamdden £17.25
  • Pris safonol (i bobl heb Gerdyn Hamdden) £20.75

Cyswllt

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon
Ysgol Rhiwabon
Rhiwabon
LL14 6BT

Ffôn: 01978 822 978
ebost: rhiwabon.sportscomplex@wrexham.gov.uk

Gweler Map Lleoliad

yn ôl i'r brig