Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297360
Ffacs: 01978 297351
Gweler hefyd: Datblygu Chwaraeon
Pwy all elwa ar Chwaraeon Anabledd Cymru?
Mae’r rhaglen yn cynnig rhywbeth ar gyfer pobl o bob oedran ac sydd â phob math o anableddau. Gall y rhaglen hefyd roi cymorth i unigolion, ysgolion, clybiau neu sefydliadau eraill sydd am gynorthwyo i ddarparu chwaraeon anabledd o fewn eu cymuned, p’un ai yw hynny drwy hyfforddi neu wirfoddoli.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Sut allaf ymuno â Chwaraeon Anabledd Cymru?
Darllenwch ymlaen! P’un ai ydych am gymryd rhan mewn chwaraeon, neu helpu i ddatblygu cyfleoedd i bobl anabl o fewn chwaraeon, gall eich Swyddog Chwaraeon Anabledd lleol eich cynghori.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Rwyf am gynryd rhan mewn chwaraeon, ond nid wyf yn gwybod lle i ddechrau.
Ni allai bod yn gysylltiedig â chwaraeon yn eich cymuned leol fod yn haws. Mae gan bob awdurdod lleol Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sydd ar gael i’ch helpu i ddechrau yn y byd chwaraeon. Bydd y swyddog yn gallu dweud wrthych am weithgareddau, cyfleusterau a rhaglenni hyfforddi chwaraeon sydd eisoes ar gael yn eich ardal chi.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Rwyf yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar hyn o bryd, ond hoffwn ymuno â chlwb.
Os ydych eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond am ymaelodi â chlwb, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol. Gallant eich helpu i gysylltu â chlwb a all eich helpu. Os nad oes unrhyw glybiau o fewn eich ardal, gallant geisio dod o hyd i’r clwb agosaf i’ch cartref chi.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Credaf fy mod yn weddol dda am wneud chwaraeon arbennig a hoffwn fynd ymhellach.
Os credwch fod y gallu, y talent neu’r uchelgais gennych mewn maes arbennig o chwaraeon, yna gall eich Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru eich rhoi mewn cysylltiad â’r hyfforddwyr a’r rhaglenni a all eich cefnogi ymhellach.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Nid oes gennyf ddiddordeb mewn bod yn bencampwr y byd - rwyf eisiau cael hwyl!
Ac nid oes dim o’i le ar gael hwyl! P’un a’i yw’n sesiwn wythnosol yn y gym, neu’n gyfle i gwrdd am gêm hamddenol o fowlio, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol. Gallant eich rhoi ar y trywydd iawn, a’ch cynghori ar raglenni chwaraeon lleol a gynhelir mewn man sy’n agos i’ch cartref.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Nid wyf erioed wedi bod yn hyfforddwr, on hoffwn ymuno â'r cynllun.
Dim problem! – Bydd eich Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol yn cwrdd â chi i’ch helpu i nodi maes a chwrs hyfforddi sy’n addas i chi. Fe gewch eich helpu, drwy broses cam wrth gam syml, i adeiladu ar eich profiad ar gyflymdra a lefel sy’n gyffyrddus i chi.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Rwyf wedi bod yn hyfforddwr ers blynyddoedd, ond nid wyr erioed wedi gweithio gyda phobl sydd ag anableddau.
Fel unrhyw un sy’n cymryd rhan, eich gwybodaeth am chwaraeon sydd ei hangen ar bobl anabl! Gall Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru eich helpu i ymuno â chyrsiau a all hybu eich ymwybyddiaeth o faterion anabledd a sut i roi eich profiad o hyfforddi ar waith.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Credaf fod gennyf lawer i'w gynnig wrth hyfforddi, a hoffwn fod yn gysylltiedig â chwaraeon o safon uwch.
Yn yr un modd ag unrhyw faes ym myd chwaraeon, mae yna bob amser cyfleoedd i hyfforddi at safon uwch. Bydd eich Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all asesu eich safon a’ch cynghori ar ddatblygiad yn y dyfodol.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Ond-faint fydd hyn i gyd yn costio i mi?
Mae grantiau ar gael i helpu i gefnogi unigolion sydd am fod yn hyfforddwyr – sydd yn aml iawn yn cwrdd â 100% o’r costau. Am wybodaeth bellach am grantiau sydd ar gael yn lleol ar gyfer hyfforddi neu arweinyddiaeth chwaraeon cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Nid wyf yn siwr am hyfforddi OND hoffwn gymryd rhan fel gwirfoddolwr.
I’r dim – mae angen cymaint o wirfoddolwyr â phosibl ar chwaraeon anableddau! P’un ai hoffech helpu mewn clwb, dod yn weinyddwr chwaraeon, gyrru cerbyd neu fod yn ‘bartner’ i fabolgampwr anabl sydd angen rhywfaint o gymorth, mae yna ran i chi. Yn syml, heb wirfoddolwyr, ni fyddai chwaraeon yn digwydd. Gall eich Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru eich helpu i ymuno, a darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Sut fath o glybiau bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn eu creu a'u datblygu?
Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru agwedd hyblyg wrth ddatblygu clybiau o fewn y gymuned. Mae rhai clybiau yn holl-anabledd, sy’n golygu eu bod yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob math o anableddau, tra bydd clybiau eraill yn canolbwyntio ar un math o anabledd yn unig, neu efallai eu bod yn bodoli eisoes fel y clybiau nofio a gymnasteg leol. Yn yr achosion hyn, bydd pobl anabl yn cymryd rhan ochr yn ochr â phobl sydd heb anableddau. Pa fath bynnag o glwb ydyw, mae’r neges yr un fath – mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn anelu at ddatblygu cyfleoedd o safon fel y gall pobl gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Pa mor hawdd yw hi i ddechrau clwb?
Ni ellir datblygu clwb dros nos. Mae’n cymryd amser i sicrhau bod y cyfleusterau’n addas, bod yna ddigon o bobl i ddod â’r peth at ei gilydd, a bod yna ddigon o bobl sydd am ymuno â’r chwaraeon. Fodd bynnag, gall clwb da wneud gwir wahaniaeth, ac mae’r gwobrwyon yn werth chweil! Caiff Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru eu hyfforddi i ddatblygu clybiau, a byddant yn falch o’ch cynorthwyo a’ch helpu i gychwyn yn dda. Mae yna hefyd grantiau y gellir eu cael er mwyn sicrhau bod yr offer iawn gennych, ac i helpu i dalu’r costau cychwynnol hanfodol.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Mae fy nghlwb wedi ystyried gofyn i bobl sydd ag anableddau ymaelodi, ond nid ydym yn siwr lle i ddechrau.
Gall Chwaraeon Anabledd Cymru eich helpu. Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol, a fydd yn ymweld â’ch clwb. Gallant eich helpu i asesu darpariaethau cyfredol eich clwb a nodi rhai pethau y bydd angen i chi eu haddasu ar gyfer eich aelodau anabl. Gall y Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru eich helpu i gysylltu â phobl anabl a gallant roi cyngor ar grantiau chwaraeon i helpu eich clwb i gwrdd ag unrhyw anghenion ychwanegol.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Beth am greu cyfleoedd cystadleuol ar gyfer aelodau o'm clwb sydd ag anableddau?
Mae cystadlaethau priodol yr un mor bwysig mewn chwaraeon anabledd ag ydyw mewn unrhyw chwaraeon eraill. Gall Chwaraeon Anabledd Cymru helpu i ddatblygu cystadlaethau lleol a all bwydo i fewn i strwythurau cystadlu rhanbarthol, cenedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol. Mae safon cystadlu pobl anabl ar unrhyw lefel yn uchel ofnadwy. Mae angen i gystadleuwyr allu adeiladu ar eu profiad o gystadlu gyda chefnogaeth ac arweiniad. Gall eich clwb chi wneud y gwahaniaeth hwnnw.
yn ôl i'r brig | Cwestiynau Cyffredin
Am wybodaeth am Chwaraeon Anabledd, cysylltwch â:
Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297360
Ffacs: 01978 297351