Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru

Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Rhaglen Datblygu Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru’n fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r cynllun wedi’i anelu at ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cymunedol o ansawdd i bobl anabl ledled Cymru.

Mae’r rhaglen yn cael ei hyrwyddo a’i darparu trwy rwydwaith o Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru; gan weithio gyda phlant ac oedolion, yr holl grwpiau anabl a’r holl chwaraeon.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n anelu at :

  • greu clybiau newydd a rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i wella clybiau presennol
  • cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cyfranogi’n weithredol mewn clybiau, grwpiau a sesiynau chwaraeon
  • gwella ansawdd a nifer y hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr mewn chwaraeon anabledd trwy addysg i hyfforddwyr a systemau eraill
  • creu cyfleoedd newydd a datblygu cyfleoedd presennol i bobl anabl gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • gweithio’n agos â Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol y ffederasiwn er mwyn sicrhau bod unigolion sydd â photensial yn cael cyfle i hyfforddi ac i gystadlu i’r safonau uchaf, lle bo hynny’n briodol.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y chwaraeon a’r gweithgareddau sydd ar gael yn Wrecsam a’r cyffiniau, ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru www.chwaraeon-anabledd-cymru.org a chliciwch ar ‘yn eich ardal’. Gallwch gysylltu â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Wrecsam trwy’r dulliau isod.

Gwybodaeth gyswllt:

Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Datblygu Chwaraeon
Byd Dŵr Wrecsam
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 297360
Gwefan: www.chwaraeon-anabledd-cymru.org

Cerdyn D.A.S.H.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth sy'n digwydd

Sportsability

yn ôl i'r brig