Sportsability

Mae'r rhaglen chwaraeon hollgynhwysol hon yn dod â chwaraeon yn fyw i bob person ifanc.

Cefndir

Mae’r gemau o fewn y rhaglen hon wedi eu chwarae’n helaeth dros nifer o flynyddoedd mewn ysgolion arbennig a chlybiau chwaraeon i’r anabl. Hyd yma, ni fu’n hawdd cael gafael ar yr offer sydd ei angen, ond erbyn hyn, mewn partneriaeth â Sefydliad Camelot, mae’r pecyn Sportsability yn cynnwys offer arbenigol a chardiau adnoddau i alluogi llawer mwy o bobl ifanc i fwynhau’r gweithgareddau hyn.

Prif nod y gemau yw darparu cyfleoedd chwaraeon arwyddocaol i bobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sydd angen llawer o gymorth, sydd efallai wedi eu heithrio o raglenni chwaraeon. Mae gan rai o’r gemau a gynhwysir yn y cynllun Sportsability statws Paralympaidd, ac fe’u chwaraeir gan yr athletwyr gorau.

Mae pob gêm o fewn y cynllun Sportsability yn darparu cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc gael eu cynnwys, drwy ddod â phobl ifanc sydd ag anabledd a’r rhai hynny nad ydynt yn anabl at ei gilydd mewn heriau chwaraeon unigryw.

Y Gemau

Bocia

Gêm sy’n debyg i fowlio, a chwaraeir yn y Gemau Paralympaidd, sy’n addas i chwaraewyr o bob gallu.

Polybat

Gêm a chwaraeir ar ben bwrdd gan ddefnyddio bat a phêl, sydd wedi ei anelu at bobl ifanc sydd ag anghenion cymorth uwch.

Criced Bwrdd

Holl bosibiliadau criced ar ben bwrdd, sydd wedi ei anelu at blant sydd â nam corfforol neu’r rhai hynny na allant gymryd rhan mewn criced symudol.

Hoci Bwrdd

Yn addas i bobl ifanc sydd â nam corfforol neu nam ar eu golwg, neu anableddau dysgu.

Pêl Gôl

Gêm cwrt bywiog ar gyfer chwaraewyr sydd â nam ar eu golwg, yn ogystal â rhai sy’n gweld yn iawn.

Datblygwyd offer a chardiau adnoddau Sportsability gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ar y cyd â nifer o asiantaethau partneriaeth a oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r gemau yn y wlad hon yn wreiddiol. Y rhain oedd:

  • Y Cyfundeb Bocia Prydeinig

  • British Blind Sport

  • Prifysgol Nottingham Trent (Polybat a Chriced Bwrdd)

Rhoi'r Rhaglen ar waith

Bydd yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yn cydweithio ag asiantaethau partneriaeth o fewn Addysg a Chwaraeon Anabledd i ddod â’r rhaglen at bobl ifanc anabl mewn ysgolion ledled y wlad.

Caiff Awdurdodau Addysg Lleol eu hannog i gysylltu ag asiantaethau partneriaeth o fewn Chwaraeon Anabledd er mwyn sicrhau y caiff yr offer ei ddefnyddio yn effeithiol o fewn yr ysgol a’r gymuned.

Gwybodaeth Bellach

Swyddog Datblygu Chwaraeon Anableddau Cymru

Ffôn: 01978 297360

yn ôl i'r brig