
CyflwyniadMae Campau'r Ddraig yn cynnig hwyl a chwaraeon priodol i blant oed cynradd.
Mae Campau'r Ddraig yn fenter Cyngor Chwaraeon Cymru ac fe'i ariannir gan y lotri. Datblygwyd hi mewn partneriaeth â chyrff llywodraethol cenedlaethol, Cymdeithas Ymgynghorwyr a Darlithwyr AG Cymru, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ac awdurdodau lleol.
Cynydda Campau'r Ddraig gyfranogiad mewn partneriaeth â chymunedau a gwirfoddolwyr.
Cyngor Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Prif amcanion y Cyngor yw:
Bwriad cynllun Campau'r Ddraig yw ehangu diddordebau chwaraeon plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn rhai chwaraeon a chynnwys plant nad ydynt yn cael cyfle i wneud chwaraeon tu allan i wersi AG ysgol. Bydd Campau'r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant chwaraeon, datblygu sgiliau a chystadleuthau priodol drwy ddefnyddio fersiynau o'r gêm oedolion wedi eu haddasu i gwrdd â'u hanghenion a lefel eu sgiliau.
Hybir ac atgyfnerthir gweithgareddau CHWARAE TEG a CHYNHWYSOL yn gyson drwy ddeunyddiau a phecynnau hyfforddi sy'n gysylltiedig â'r rhaglen. Yn bwysicaf oll, dylai'r plant sy'n cymryd rhan gael HWYL.
Bydd y saith gamp ganlynol yn cael eu cynnwys yn y cynllun Campau'r Ddraig i ddechrau: ATHLETAU, CRICED, PÊL-DROED, HOCI, PÊL-RWYD, RYGBI, GOLFF a THENNIS. Dewiswyd y rhain fel y chwaraeon cyntaf a fydd yn gyfarwydd i wirfoddolwyr ac yn helpu plant i ddatblygu sgiliau symud a chydlynu sy'n ofynnol ar gyfer unrhyw fath o chwaraeon. Gellir eu cyflawni'n ddiogel ac mae digon o gyfarpar a chyfleusterau ar gael.
Gall Campau'r Ddraig gael ei gyflawni gan wirfoddolwyr yn hawdd. Mae cydlynwyr Campau'r Ddraig yn rhoi cyngor a hyfforddiant cam wrth gam i helpu ysgolion, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr ddarparu Campau'r Ddraig. Cynigir y cymorth hwn i ysgolion a chlybiau drwy raglen raddol mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr AG, cyrff llywodraethol cenedlaethol, ysgolion a darparwyr lleol eraill. Gall Campau'r Ddraig gael ei gynnig gan ganolfannau hamdden, grwpiau ieuenctid, sefydliadau gwirfoddol a'r rhai mewn ffurfwisg.
Mae gwirfoddolwyr presennol Campau'r Ddraig wedi sôn am y mwynhad a'r bodlonrwydd maent yn ei gael wrth weld plant yn dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Mae llawer o'r gwirfoddolwyr wedi dod yn hyfforddwyr cymwysedig ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i glybiau eu cymunedau.
Bydd cynyddu nifer y gwirfoddolwyr yn Campau'r Ddraig yn galluogi mwy o blant i gymryd rhan mewn clybiau Campau'r Ddraig. Bydd hefyd yn galluogi rhieni, athrawon, myfyrwyr a gwirfoddolwyr eraill i gael hyfforddiant a gwneud cyfraniad gwerthfawr ym maes chwaraeon.
Mae gan rieni, neiniau a theidiau, myfyrwyr a gwirfoddolwyr eraill lawer i'w gynnig i blant drwy chwaraeon ac anogir nhw i ddod yn rhan o gynllun Campau'r Ddraig. Gall cynorthwywyr Campau'r Ddraig weithio ochr yn ochr â threfnydd Campau'r Ddraig, ar ôl iddynt fynychu gweithdy trefnwyr Campau'r Ddraig.
Bydd gofyn i'r rhai sy'n goruchwylio gweithgareddau fynychu gweithdy trefnwyr Campau'r Ddraig ac ennill un o'r cymwysterau canlynol:
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gofyn i drefnwyr fod dros 18 oed er mwyn bod yn hollol gyfrifol am sesiwn Campau'r Ddraig.
Mae rhestr o'r isafswm cymwysterau arwain a hyfforddi ar gael gan eich Cydlynydd Campau'r Ddraig lleol neu gorff llywodraethol cenedlaethol.
Drwy'r Cydlynydd Campau'r Ddraig lleol, bydd clybiau Campau'r Ddraig yn cael:
Mae'r bagiau cyfarpar canlynol ar gael ar hyn o bryd:
Un o nodau Campau'r Ddraig yw helpu plant i ddysgu bod chwarae'n deg yn gwneud chwaraeon yn fwy hwyliog. Mae Campau'r Ddraig yn eu helpu i ddysgu sut i gydweithredu, chwarae fel tîm, parchu eraill a chwarae yn ôl y rheolau drwy gôd ymddygiad chwaraewyr. Mae hyn yn gwneud y profiad yn un pleserus i bawb.
Mae Campau'r Ddraig hefyd yn sicrhau bod gwirfoddolwyr, rhieni ac athrawon yn cytuno i gadw at y Côd Ymddygiad Chwarae Teg. Mae Chwarae Teg yn fenter gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sy'n anelu at:
Mae'n bwysig bod pob sefydliad ac unigolyn yn diogelu eu hunain rhag bod yn atebol am niwed neu ddifrod. Dylai sefydliadau wirio eu hyswiriant cyn ymgymryd â gweithgareddau Campau'r Ddraig. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n argymell bod gan sefydliadau sy'n ymgymryd â Campau'r Ddraig yr isafswm yswiriant canlynol:
Cysylltwch â'ch Cydlynydd Campau'r Ddraig neu gorff llywodraethol cenedlaethol os oes gennych unrhyw gwestiynau am yswiriant ar gyfer eich clybiau Campau'r Ddraig.