Bras amcanion yr Adran Dechnegol yw:
Mae'r swydd yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Adran Decnegol Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Mae Wrecsam yn draddodiadol yn ardal lle mae pêl?droed yn gryf, ac yn cynhyrchu nifer o chwaraewyr proffesiynol gan gynnwys y rheolwr cenedlaethol Mark Hughes, a Robbie Savage sy’n chwarae i Birmingham City a Chymru.
Mae'r sir yn unigryw, yr unig un yng Nghymru sydd â chlwb proffesiynol, Wrexham AFC yn chwarae yng Nghynghrair Nationwide Adran 2 a thîm o fewn Prif Gynghrair Cymraeg JT Hughes Mitsubisihi, NEWI Cefn Druids.
Yn sgîl hanes pêl-droed yr ardal, mae yna cryn dipyn o weithgarwch strwythuredig yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, ac felly swyddogaeth y Swyddog Datblygu yw sicrhau bod gweithgareddau presennol ac yn y dyfodol yn gymwys i’r strategaeth genedlaethol ar gyfer pêl-droed yng Nghymru.
Amcan y maes hwn yw peri bod plant oed ysgol yn cymryd mwy o ran mewn pêl-droed.
Y partneriaid allweddol o fewn yr ardal yw Pêl-droed Wrecsam yn y Gymuned (rhaglen ysgolion plant iau, Canolfan Hwyl ac Wythnos Hwyl), NEWI Cefn Druids (rhaglen ysgolion cynradd), Campau’r Ddraig, ysgolion lleol, clybiau cymunedol a chanolfannau hamdden.
Y nod yw cynyddu cyfleoedd yn benodol i ferched a genethod ifanc gymryd rhan mewn pêl-droed.
Gyda chymorth Pêl-droed Wrecsam yn y Gymuned, NEWI a Champau’r Ddraig mae cynghrair i ferched yn y broses o gael ei sefydlu ar gyfer timau o fewn y Sir.
Y nod yw recriwtio, hyfforddi a datblygu hyfforddwyr i gefnogi datblygiad chwaraewyr.
Mae’r holl gyrsiau sylfaenol ar gael yn lleol, gydag arweiniad ar sut i ymuno â chyrsiau pellach o drwydded C i dystysgrif broffesiynol.
Y nod yw adnabod a chefnogi chwaraewyr talentog, i ddatblygu eu potensial.
O ganlyniad i nifer y sefydliadau â buddiant breintiedig yn yr ardal hon, sefydlwyd Fforwm Datblygu Chwaraewyr ar gyfer yr ardal hon er mwyn sicrhau bod lles y chwaraewyr yn cael ei ystyried. Cynrychiolwyr o NEWFA, WDYFL, Ymddiriedolaeth FAW, WCBC, WSFA Cynradd ac Uwchradd, Wrecsam AFC a NEWI Cefn Druids.
Y nod yw cynyddu’r darpariaethau ar gyfer chwaraewyr o fewn eu clybiau iau drwy ddefnyddio’r meini prawf a nodir o fewn y Rhaglen Achredu Clybiau. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â’r WDYFL a chlybiau penodol.
Rwyf yn derbyn nifer o ymholiadau yn ddyddiol yngl~n â phêl-droed. Rwyf wedi rhestru isod y ffyrdd y gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth a ofynnir amdani amlaf:
Sut allaf ymuno â chlwb?
I gael gwybodaeth am y Gynghrair Ieuenctid leol cysylltwch â Chynghrair Ieuenctid Wrecsam a'r Cylch.
Ym mhle gall fy mhlentyn fynychu canolfan pêl-droed hwyl a gwyliau?
Pêl-droed yn y Gymuned Clwb Pêl-droed Wrecsam 01978 317686.
Sut allaf ddod yn hyfforddwr?
I gael gwybodaeth am gyrsiau addysg i hyfforddwyr lleol a chenedlaethol cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Cymdeitas Pêl-droed Cymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar feysydd y rhaglen drwy wefan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Swyddog Datblygu Pêl Droed
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH
Ffôn: 01978 297361
Ffacs: 01978 297351