Iechyd

Nod

Nod y Swyddog Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yw datblygu mentrau iechyd o fewn ardal Wrecsam a darparu rhaglen ymarfer corff i bobl sydd wedi cael trawiad ar y galon.

Cefndir

Mae’r swydd Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yn fenter a gaiff ei ariannu ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Ysbytai Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y ddau brif gynllun sy’n cael eu rhedeg gan y Swyddog Datblygu Iechyd y Galon Cymunedol yw’r Rhaglen Adfer y Galon a Dechrau o’r Newydd.

Adfer y Galon

Mae Adfer y Galon Cyfnod IV yn gynllun arall, sy’n darparu’r cyfle i gleifion o Adran Adfer y Galon Ysbyty Maelor Wrecsam barhau â’u cynllun ymarfer corff o dan amodau diogel.
Ceir gwybodaeth bellach ar weithgarwch corfforol a Chlefyd y Galon ar wefan Sefydliad y Galon Prydeinig.

Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff – ‘Dechrau o’r Newydd’

Beth yw’r Cynllun Atgyfeirio i Ymarfer?

Lluniwyd y Cynllun ‘Dechrau o’r Newydd’ i helpu oedolion anweithgar sydd naill ai’n mewn perygl o ddatblygu iechyd gwael, neu sydd â chyflwr meddygol eisoes, i ddod yn fwy egnïol.

Bydd cyfranogwyr yn y cynllun yn cael ymgynghoriad gyda Gweithiwr Proffesiynol Ymarfer cwbl gymwysedig a mynediad at raglen ymarfer 16 wythnos. Ar ôl yr 16 wythnos bydd cyfranogwyr yn cael eu llywio tuag at ymarfer annibynnol yn yr hirdymor. Nid rhywbeth dros dro er mwyn gwella iechyd yw ymarfer ond mae’n gorfod bod yn newid dull o fyw gydol oes.

Mae’r cynllun yn anelu at unigolion sy’n anweithgar ond eisiau gwella eu hiechyd. Bydd y rhaglen yn helpu lleihau perygl clefyd y galon, gostwng pwysedd gwaed, colli pwysau a lleihau straen neu iselder ymhlith llawer o fuddiannau eraill.

Sut i ddechrau arni?

Yn gyntaf rhaid i unigolion gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, Nyrs Practis neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd arbennig eraill o Ysbyty Maelor Wrecsam, fel dietegydd, nyrs clefyd siwgwr, nyrs adfer y galon neu ffisiotherapydd. Os ydynt yn gymwys, mae modd llenwi ffurflen atgyfeirio a chydsynio a’i hanfon at y Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer penodedig.

Pa fath o weithgaredd sy’n cael ei gynnig ar y Cynllun?

Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael, sy’n cynnwys gweithgareddau awyr agored fel rhaglenni Cerdded Nordig, Beicio a Cherdded, yn ogystal â gweithgareddau yn y Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau fel yr ystafelloedd cadw’n heini, gweithgareddau dŵr a dosbarthiadau chylched ysgafn.

Am fwy o wybodaeth am Ganolfannau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam >>

Wyddech chi?

Mae’n ffaith bod ymarfer yn rheolaidd yn cynyddu’n ddramatig eich gobaith o fyw’n iachach ac yn hwy. Yr argymhelliad presennol ar weithgarwch corfforol yw 30 munud o weithgaredd cymedrol (fel cerdded sionc) ar bum diwrnod neu fwy yr wythnos.

  • Gall ymarfer wneud i chi deimlo’n dda
  • Cadw eich calon yn gryf
  • Rhoi mwy o egni i chi
  • Gostwng pwysedd gwaed
  • Helpu i chi gysgu’n well
  • Helpu lleihau straen
  • Helpu i chi reoli eich pwysau

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwefan Sefydliad y Galon Prydeinig

Gwefan Newid am Oes

Staff Atgyfeirio i Ymarfer

Yn arwain ein holl raglenni gweithgarwch corfforol mae Gweithwyr Proffesiynol cymwysedig dros ben sydd wedi cael eu hyfforddi mewn cymwysterau cyfeirio gan feddyg teulu yn ogystal â chymwysterau mwy arbenigol fel Ailgynefino’r Galon, Methiant y Galon, Ailgynefino’r Ysgyfaint, Osgoi Syrthio a Gofalu am y Cefn. Mae hyn yn gadael i ni gyflwyno dosbarthiadau cyffredinol Ymarfer ar ôl Atgyfeirio, yn ogystal â dosbarthiadau penodol i’r holl gyflyrau a restrwyd. Mae hyfforddwyr iechyd corfforol hefyd o’r gwahanol ganolfannau hamdden a gweithgareddau’n ymwneud â chyflwyno sesiynau ymarfer ar y cynllun atgyfeirio sydd hefyd â chymwysterau priodol ar gyfer cyfeirio gan feddyg teulu. Felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn cael cyngor a gofal proffesiynol o’r dechrau a thrwy gydol eich rhaglen ymarfer.

Swyddog Datblygu iechyd y Galon Cymunedol
Byd Dwr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 297361
Ffacs:
01978 297351

yn ôl i'r brig