MEND

Rhaglen o Hwyl AM DDIM I blant ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach!

A oes gennych chi blant rhwng 7 ac 13 oed?

A ydych chi’n peoni nad yw eu pwysau’n iach efallai?

Yna ffoniwch ni ar (01978) 292088 nau 0800 230 0263 ac ymunwch â Rhaglen MEND!

Mae Rhaglen MEND wedi hen ennill ei phlwyf a chaiff ei rhedeg gan hyfforddwyr cymwys. Mae’n cael plant I fod yn iach ac yn heini ymhen 10 wythnos yn unig – ac mea’n helpu iddyn nhw aros felly!

Cewch wybod am blant eraill yn cael hwyl ar Raglen MEND (cyswllt allanol www.mendprogramme.org).

Beth sy’n digwydd ar Raglen MEND?

  • Gemau, gweithgareddau a nofio wythnosol
  • Dysgu y gall body n heini fod yn hwyl
  • Darganfod ffyrdd hawdd o wella ymddygaid a hunanhyder eich plentyn
  • Arddangosiadau, gemau ac awgrymiadau ar fwyd, labeli bwyd a maint dognau.
  • Taith hwyliog o amglych archfarchnad a chyfle I brofi bwydydd newydd blasus!

Pa mor hir yw’r rhaglen?

10 wythnos yn unig – 20 o sesiynau dwy awr, ddwywaith yr wythnos.

Faint mae’n costio?

Mae Rhaglen MEND AM DDIM.

A yw unrhyw blant yn cael ymuno?

Byddwn yn gwirio oedran, pwysau ac iechyd eich plentyn I weld a yw’n gymwys.

Manylion Cyswllt

Cydlynydd MEND
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Swyddfeydd y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 292088
Ffacs: 01978 297351
Ebost: MEND@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol