

Roedd cymuned chwaraeon Wrecsam mewn hwyl orfoleddus nos Wener (20 Tachwedd 2009) pan gasglodd dros 300 o chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a phobl bwysig ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cynhaliwyd y noswaith yng Nghanolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo dan arweiniad Ken Danskin, Swyddog Hamdden Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, a rhoddodd le amlwg i’r cyfoeth o ddoniau chwaraeon yn y sir. Roedd gwobrau ‘oscar-esq’, yn eu chweched flwyddyn bellach, yn cydnabod a gwobrwyo’r rhai sy’n gwneud cyfraniad neilltuol i chwaraeon yn y cylch.
Y canlynol yw’r categorïau a’u henillwyr:
Cyflwynodd Sheila Griffiths Wobr o fri Arnold Griffiths am Wasanaeth i Chwaraeon i John Bell o Glwb Criced Gresffordd a ddywedodd: “Rwy’n hynod falch o ennill y wobr hon – mae’n golygu llawer i mi a’r clwb”.
Yn ystod y noswaith difyrrwyd y gynulleidfa gan Dîm Dawnsio Ysgol Uwchradd Darland. Emily Morgan, arweinydd dawns y tîm, enillodd Gwobr Chwarae Teg eleni a dywedodd: “Rwyf mor falch o fod wedi ennill y wobr hon – rydym i gyd wedi bod yn gweithio mor galed. Mae’n wych cael ein gwahodd i berfformio yma heno a dangos ein gwaith i bobl”.
Meddai Alan Watkin, Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant: “Roedd yn noswaith arbennig. Mae pob un o’r enillwyr wedi cyfrannu mewn un ffordd neu’i gilydd at chwaraeon yn Wrecsam. Fe ddylent fod yn falch iawn o’u llwyddiannau. Mae pawb a gymrodd ran ac a enwebwyd yn y noswaith wobrwyo wedi helpu gwneud Wrecsam yn un o siroedd chwaraeon mwyaf bywiog a llwyddiannus Cymru. Bob blwyddyn mae mwy a mwy o gystadleuaeth ac mae’n rhoi cyfle i’n sir ddathlu llwyddiant y dynion a merched rhyfeddol ym myd chwaraeon sydd gennym yma yn Wrecsam.”
Tynnodd y Gwobrau Chwaraeon sylw at waith eithriadol a champ athletaidd pobl leol, ac roedd yn gyfle i bawb longyfarch athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi cyflawni rhagoriaeth chwaraeon yn Wrecsam.
Cafodd yr achlysur gefnogaeth frwd cymuned chwaraeon leol Wrecsam yn ogystal â chymorth mawr amrywiaeth o noddwyr. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant yr achlysur yn y dyfodol, a dathlu buddugwyr sirol sy’n mynd ymlaen i ennill cydnabyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol yn y dyfodol.
Cododd y raffl ac arwerthiant a gynhaliwyd ar y noswaith dros £300 at Blant Anghenus ac Elusen y Maer.
Da iawn wir i bob un o enillwyr y noswaith a diolch yn fawr i holl noddwyr eleni: Kellogg’s, Lakeside Coaches, Canolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Fitness Assist, Cymdeithas Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru, Gymophobics, Greens ‘n’ Things, Jami Q’s, Charisma Trophies, AVOW a Phrifysgol Glyndŵr.