Gwobrau Chwaraeon Cyngor Wrecsam 2012

Hoffai Cyngor Chwaraeon Ardal Wrecsam ar y cyd â thîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wahodd enwebiadau ar gyfer gwobrau blynyddol clodfawr Cyngor Chwaraeon Ardal Wrecsam.

Mae Cyngor Bwrdesitref Sirol Wrecsam yn unol a’i Tim Datblygu Chwaraeon clodfawr wedi’u cynllunio i werthfawrogi’r gwaith ardderchog a wneir gan bobl leol yn y cymunedau lleol ledled Wrecsam. Maent yn fodd i gydnabod ac anrhydeddu cyflawniadau athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill o fyd chwaraeon sy’n ceisio rhagoriaeth yn eu maes yn Wrecsam.

Cynhelir y noson gyflwyno yng Nghanolfan Gymunedol a Chwaraeon Brymbo ar 23 Chwefror 2012.  Anogir clybiau chwaraeon, ysgolion a gwirfoddolwyr i anfon enwebiadau er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i werthfawrogi gwaith a chyrhaeddiad gwych pobl leol. 

Ers i’r cystadleuaeth gael ei hatgyfodi yn 2004 maet wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth godi proffil cyfleusterau chwaraenl lleol ac athletwyr yn yr ardal drwy eu cydnabod a’u anrhydeddu am ei cyfraniad i sbort yn Wrecsam a’i cyffiniau.

Y dyddiad cau ar gyfer ydi Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012.  Cyflwynir gwobrau mewn nifer o gategorïau gan gynnwys:

  • Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn – Iau a Hŷn
  • Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn i’r Anabl
  • Gwobr Gwasanaeth i Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Iau a Hŷn
  • Gwobr Cyflawniad i Ysgolion Cynradd
  • Gwobr Cyflawniad i Ysgolion Uwchradd
  • Gwobr Chwarae’n Deg
  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Clwb y Flwyddyn
  • Tîm y Flwyddyn
  • Gwobr Arwr Heb ei Gydnabod

Ffurflen Enwebu

Ffurflen Enwebu Gwobr Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2012 - fformat Word 703Kb

Ffurflen Enwebu Gwobr Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2012 - fformat PDF 567Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Disgrifiadau o'r Enwebiadau

TÎM Y FLWYDDYN

Tîm (nid unigolion) sydd wedi cael llwyddiannau mawr mewn cystadlaethau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf.

PERSONOLIAETH CHWARAEON IAU Y FLWYDDYN 18 AC IAU

Unigolyn sydd wedi llwyddo i gyrraedd safon perfformio uchel yn eu dewis chwaraeon ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf.

PERSONOLIAETH CHWARAEON HŶN Y FLWYDDYN

Unigolyn sydd wedi llwyddo i gyrraedd safon perfformio uchel yn eu dewis chwaraeon ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf.

GWOBR GWASANAETHAU I CHWARAEON

Unigolyn sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at chwaraeon drwy eu perfformiad, hyfforddi, gwirfoddoli neu drwy annog eraill i fod ynghlwm wrth chwaraeon yn ystod ei fywyd.

HYFFORDDWR Y FLWYDDYN

Mae hyfforddwyr ar bob lefel o hyfforddi dechreuwyr i’r goreuon wrth wraidd chwaraeon.  Mae’r rheini sy’n hyfforddi pobl ifanc ar lefel leol yr un mor hanfodol â’r hyfforddwyr sy’n gweithio gyda’r athletwyr gorau.  Bydd y wobr hon yn cydnabod llwyddiant yr hyfforddwyr lleol sy’n gwneud gwahaniaeth i chwaraeon yn eu maes.

PERSONOLIAETH CHWARAEON ANABL Y FLWYDDYN

Unigolyn sydd ag anableddau corfforol neu glywedol sydd wedi llwyddo i gyrraedd safon uchel yn eu dewis o chwaraeon boed ar lefel lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf.

YSGOL GYNRADD Y FLWYDDYN

Unigolyn, tîm neu glwb mewn ysgol gynradd sydd un ai wedi gwneud gwahaniaeth i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer pob disgybl yn eu hysgol neu wedi perfformio ar safon uchel yn eu dewis chwaraeon wrth gymryd rhan i’w ysgol.  Bydd y wobr hon yn cydnabod llwyddiannau hyfforddwyr lleol, gwirfoddolwyr, timau neu unigolion chwaraeon o fewn eich ysgol gynradd.

YSGOL UWCHRADD Y FLWYDDYN

Unigolyn, tîm neu glwb mewn ysgol uwchradd sydd un ai wedi gwneud gwahaniaeth i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer pob disgybl yn eu hysgol neu wedi perfformio ar safon uchel yn eu dewis chwaraeon wrth gymryd rhan i’w ysgol.  Bydd y wobr hon yn cydnabod llwyddiannau hyfforddwyr lleol, gwirfoddolwyr, timau neu unigolion chwaraeon o fewn eich ysgol uwchradd.

GWIRFODDOLWR IAU/HŶN Y FLWYDDYN

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chwaraeon yn Wrecsam yn wirfoddol.  Mae’n rhaid iddynt roi o’u hamser a’u doniau i alluogi eraill i gymryd rhan yn y chwaraeon dan sylw.  Efallai i hyn fod drwy helpu unigolyn, grŵp neu dimau.  Gall y chwaraeon fod ar unrhyw lefel.  Ni fydd yr unigolyn hwn yn elwa’n ariannol am eu hymdrech a’u hamser.

CLWB Y FLWYDDYN

Clwb sydd wedi gweithio i ddatblygu ei ddyfodol drwy gynyddu cyfranogiad ym mhob maes. Clwb sydd wedi chwilio am nawdd a chynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr yn eu strwythur.

GWOBR SBORTSMONAETH

Unigolyn sy’n arddangos ac yn hyrwyddo ymagweddau cadarnhaol tuag at chwaraeon ac yn gwella safon ymddygiad y rheiny sy’n cymryd rhan yn y chwaraeon drwy gydweithrediad ag eraill yn y grŵp.

GWOBR ARWR HEB EI GYDNABOD

Unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at weithredu neu drefnu ei ddewis gamp neu glwb cymunedol. Gallai hyn gynnwys codi arian, gweinyddu, bod yn aelod o bwyllgor, y person yn darparu cludiant neu’r person yn golchi’r cit. Person na fyddai’n cael ei gydnabod fel rheol oddi mewn i unrhyw gategori arall.

yn ôl i'r brig